Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynllun cymorth achredu'r cyflog byw

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gyflogwr y Cyflog Byw er 2015 ac rydyn ni o'r farn bod talu'r Cyflog Byw yn ddangosydd allweddol o ymrwymiad cyflogwr i arferion gwaith teg.

Dyna pam ein bod yn gweithio i hyrwyddo'r Cyflog Byw ar draws y gymuned fusnes leol ehangach.

Ein nod yw cynorthwyo ac annog cynifer o fusnesau lleol â phosibl i ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw i'w cyflogeion.

Rydym yn cynnig cymorth ariannol o hyd at £825 i fusnesau yng Nghaerdydd sydd â hyd at 250 o weithwyr os ydynt yn dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Bydd y cynllun yn berthnasol i bob cyflogwr sy'n meddiannu eiddo annomestig yn ardal Cyngor Caerdydd ac sy'n atebol am dalu Trethi Busnes a heb fod mewn diffyg ariannol.

Faint o grant sydd gen i hawl iddo?

Mae lefel y cymorth ariannol a gallwch ei gael yn d

ibynnu ar ba fath o sefydliad ydych chi a sawl cyflogai sydd gennych. Gallech hawlio hyd at £825.

Math o Sefydliad0 i 10 cyflogeion11 i 50 cyflogeion51 i 250 cyflogeion
Sector preifat£207£411£825
Sector cyhoeddus ac elusennau£207£411£825

 

Hawlio'r grant

I fod yn gymwys am y grant, rhaid i'ch busnes sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd gael ei achredu gan Sefydliad y Cyflog Byw. Mae ffi fechan am hyn - gweler y tabl isod. Mae'r cymorth ariannol a gynigir yn daliad untro, ac ni ellir ei ôl-ddyddio, a bydd ar sail y cyntaf i'r felin nes i ni ddyrannu hyd at £50,000. Os oes gennych ddiddordeb:

 

Cost achrediad i Sefydliad y Cyflog Byw

O fis Ebrill 2026

Math o Sefydliad0 i 10 cyflogeion11 i 50 cyflogeion51 i 250 cyflogeion251 i 500 ecyflogeion500+ cyflogeion
Sector preifat£100£150£290£590£3,640
Sector cyhoeddus ac elusennau£100£150£290£590£590

 

Achredu

I ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig swyddogol, mae angen i chi gwblhau ffurflen fer i gadarnhau eich bod yn talu'r Cyflog Byw i'ch holl staff a bod gennych gynllun i dalu unrhyw un sy'n gweithio ar eich safle, fel glanhawyr a chontractwyr, y cyflog byw. Mae hyn yn sicrhau y gall y bobl ar waelod eich cadwyn gyflenwi dalu am eu hanghenion sylfaenol.

Cynnal Cymru yw corff achredu swyddogol Sefydliad y Cyflog Byw yng Nghymru. Mae achredu'n broses gyflym, a chaiff trwyddedau eu prosesu ymhen 10 diwrnod gwaith.

 

Cysylltu â ni