Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud Caerdydd yn ddinas cyflog byw

Mae'r Cynllun Mannau Cyflog Byw yn cydnabod ac yn dathlu'r ardaloedd daearyddol sy'n gwneud mwy i ymestyn achrediad Cyflog Byw. Maent yn lleoliadau lle mae cymunedau a busnesau yn cydweithio i fynd i'r afael â thâl isel yn eu hardal leol.  

Mae Caerdydd wedi'i chydnabod fel Dinas Cyflog Byw yn rhan o'r cynllun 'Gwneud Lleoedd Cyflog Byw' newydd. Gwnaeth grŵp o gyflogwyr Caerdydd blaenllaw gydweithio i ffurfio Grŵp Gweithredu Cyflog Byw Caerdydd a gwnaethon nhw lansio eu cynllun gweithredu 3 blynedd i ddechrau 'Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw'. 

Ers dod yn Ddinas Cyflog Byw, mae Caerdydd wedi:

  • cyrraedd y targed o 150 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig 
  • cynyddu cyfanswm nifer y gweithwyr a gyflogir gan gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd i 48,000.
  • gweld dros 61,000 o bobl yng Nghaerdydd bellach yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw,
  • cyflawni 43% o gyfanswm Cymru sef 345 o gyflogwyr achrededig.

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth a dod o hyd i restr o gyflogwyr Cyflog Byw ar wefan Cyflog Byw Cymru.