Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trafnidiaeth ysgol brif ffrwd

Rydym yn darparu trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion 5 i 16 oed nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol. Rydym yn mesur y pellteroedd gan ddefnyddio'r llwybr cerdded byrraf.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim a bod gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim ac nad oes gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws y gellir ei ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dysgwch fwy am ddalgylchoedd ysgolion.

Cymhwysedd

Mae disgyblion o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim bob blwyddyn.

Ni fydd eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim yn yr achosion canlynol:

  • ni wnaethoch gais am yr ysgol ddalgylch, neu
  • cafodd gynnig ar gyfer yr ysgol ddalgylch ei wrthod.

Os ydych yn cofrestru eich plentyn yn hwyr neu os ydych wedi symud cyfeiriad yn ddiweddar, cysylltwch â ni.

Os yw eich plentyn yn defnyddio trafnidiaeth ysgol am ddim, rydych wedi cytuno i'r polisi trafnidiaeth ysgol (PDF, 121 KB) a chod ymddygiad Llywodraeth Cymru.

Disgyblion ysgolion cynradd

Mae disgyblion ysgolion cynradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 2 filltir o'u hysgol ddalgylch, neu'r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw'r ysgol ddalgylch yn llawn.

Gallwch weld amserlenni llwybrau bysus ysgolion cynradd.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf i ddweud wrthych pa wasanaeth y gall ei ddefnyddio ac amserlen y llwybr.

 

Disgyblion ysgolion uwchradd

Mae disgyblion ysgolion uwchradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 3 milltir o'u hysgol ddalgylch, neu'r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw'r ysgol ddalgylch yn llawn. Gallwch weld amserlenni llwybrau bysus ysgolion uwchradd.

Disgyblion sy'n dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi

Bydd pob disgybl sy'n dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi yn cael ei asesu. Os yw eich plentyn yn gymwys, byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf.

Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr yr wythnos cyn i'r tymor ddechrau, cysylltwch â ni.

Disgyblion sy'n dechrau blynyddoedd 8 i 11 ym mis Medi

Byddwn yn asesu a yw eich plentyn yn gymwys i gael pàs bws bob blwyddyn. Os nad yw unrhyw beth wedi newid a bod eich plentyn yn gymwys o hyd, byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf.

Os nad yw eich plentyn yn gymwys mwyach, byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn mis Awst. Os nad ydych wedi clywed gennym neu os oes gennych gwestiwn am gymhwysedd, cysylltwch â ni.

Disgyblion sy'n dechrau blynyddoedd 12 a 13 ym mis Medi (ôl-16)

Nid ydym yn cynnig trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion ôl-16. Os yw eich plentyn yn mynd i'r chweched dosbarth mewn ysgol lle arferai gael trafnidiaeth ysgol am ddim, efallai y byddwch yn gallu prynu pàs ar gyfer y gwasanaeth bws ysgol hwnnw.

 

Cysylltu â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os ydych am roi gwybod am ddigwyddiad, cwblhewch y ffurflen ar-lein.

Cysylltu â ni