Os oes anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan eich plentyn, siaradwch â gweithiwr achos ADY eich plentyn am yr opsiynau sydd ar gael. Os nad oes Gweithiwr Achos ADY gennych, siaradwch â Chydlynydd ADY yr ysgol.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am wneud cais am drafnidiaeth ysgol, cysylltwch â [email protected].
Os oes angen help ar eich plentyn i deithio'n annibynnol, efallai y bydd yn gallu cael hyfforddiant teithio. Dysgwch fwy am y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA).
Cysylltu â ni
Os yw eich plentyn yn cael trafnidiaeth ysgol am ddim a bod unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein os oes unrhyw gwestiynau gennych am y canlynol:
- pàs bws eich plentyn, neu
- dacsi neu fws mini cyfredol eich plentyn.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen i roi gwybod am ddigwyddiad.
