Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Fflatiau sydd â biniau cymunedol

Gallwn gynnig canllawiau cyffredinol ar gyfer fflatiau sydd â biniau cymunedol sy'n cael eu casglu gan y cyngor, ond mae pob fflat yng Nghaerdydd yn wahanol. Mae eich trefniadau casglu yn dibynnu ar sut mae eich adeilad yn cael ei reoli.

Sut mae casgliadau ailgylchu a gwastraff yn gweithio

Dysgwch beth i'w roi ym mhob bin.

Ailgylchu

Cesglir deunydd ailgylchu unwaith yr wythnos. Casgliadau gwastraff a deunyddiau ailgylchu.

Os oes gennych finiau ailgylchu ar wahân, rhowch eich deunydd ailgylchu yn y biniau cywir. Peidiwch â rhoi eich ailgylchu mewn unrhyw fagiau.

Os oes gennych finiau gwyrdd cymunedol, gallwch roi eich ailgylchu yn y bin yn rhydd. Does dim rhaid i chi ddefnyddio bagiau gwyrdd.

Bin cynwysyddion plastig a thun (coch)

Mae'r bin coch ar gyfer cynwysyddion, fel:

  • caniau,
  • tuniau,
  • cartonau,
  • poteli plastig,
  • tybiau a hambyrddau.

Bin papur a chardfwrdd (glas)

Mae'r bin glas ar gyfer:

  • papur, a
  • chardfwrdd.

Bin gwydr (caead melyn)

Mae'r bin gyda chaead melyn ar gyfer gwydr.

Os nad oes gennych system ailgylchu ar wahân eto

Peidiwch â rhoi bagiau du yn eich bin gwyrdd cymunedol. Ni fyddwn yn casglu ailgylchu sy'n gymysg â gwastraff cyffredinol.

Nid ydym yn darparu bagiau gwyrdd ar gyfer ailgylchu cymysg mwyach. Gallwch roi eich eitemau ailgylchadwy yn rhydd yn y bin.

Gwastraff bwyd

Cesglir gwastraff bwyd unwaith yr wythnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich cadi gwastraff bwyd.

Defnyddiwch leinwyr cadi yn eich cadi cegin, yna rhowch nhw yn eich bin gwastraff bwyd brown cymunedol. Peidiwch â defnyddio bagiau plastig.

Gallwch gasglu leinwyr cadi gwastraff bwyd o'ch stociwr lleol.

Gwastraff cyffredinol

Caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu bob pythefnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich bin gwastraff cyffredinol.

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o fag ar wahân i fagiau ailgylchu ar gyfer gwastraff cyffredinol. Rhowch y bagiau yn eich bin gwastraff cyffredinol cymunedol.

Byddwn ond yn casglu cynnwys eich bin. Ni fyddwn yn gwagio biniau sydd wedi'u rhwystro gan wastraff swmpus neu fagiau ychwanegol.

Gwastraff gardd

Caiff gwastraff gardd ei gasglu bob pythefnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich bin gwastraff gardd.

Mae llawer o fflatiau â gerddi yn cael eu cynnal a'u cadw gan staff cynnal a chadw tiroedd.

Rhowch wastraff gardd yn syth i'ch bin gwastraff gardd cymunedol. Peidiwch â rhoi bagiau o wastraff gardd yn eich bin cymunedol.

Os yw eich bin gardd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â'ch landlord, gofalwr yr adeilad neu'r cwmni rheoli adeiladu. Gallant archebu bin newydd drwy ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Darpariaethau biniau ar gyfer fflatiau

Os oes gennych gasgliadau gwastraff y cyngor, byddwn yn darparu biniau ar gyfer eich adeilad. Bydd nifer y biniau a ddarperir yn dibynnu ar nifer y fflatiau yn yr adeilad.

Biniau ychwanegol

Ni fyddwn yn darparu biniau gwastraff cyffredinol ychwanegol.

Os oes gennych wastraff ychwanegol na ellir ei ailgylchu'n rheolaidd, siaradwch â'r person sy'n gyfrifol am eich adeilad. Gallai hwn fod eich:

  • rheolwr eiddo,
  • landlord,
  • datblygwr tai, neu
  • gwmni rheoli.

Gallwn eu helpu i annog preswylwyr i ailgylchu mwy.

Gallent hefyd ddewis trefnu casgliadau ychwanegol gyda chwmni preifat.

Gallant hefyd brynu biniau ailgylchu ychwanegol gennym os oes digon o le i'w storio. Bydd angen i chi siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am eich adeilad i drefnu hyn.

Os ydych yn byw mewn fflat y Cyngor, siaradwch â'ch swyddog tenantiaeth.

Biniau ar goll

Os nad oes gennych y nifer cywir o finiau ar gyfer eich eiddo, neu os oes angen biniau newydd neu drwsio biniau, dylech siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am eich adeilad. Gallwch weld prisiau'r biniau.

Os oes gennych gasgliadau'r cyngor, ond nad oes gennych fin gwastraff bwyd cymunedol, siaradwch â'r person sy'n gyfrifol am eich adeilad. Efallai y bydd yn gallu trefnu casgliad gwastraff bwyd.

Os ydych yn byw mewn fflat y Cyngor, siaradwch â'ch swyddog tenantiaeth.

Datblygiadau newydd

Os yw eich eiddo yn ddatblygiad newydd sbon, gallai eich biniau fod wedi cael eu harchebu ac ar y ffordd, neu efallai na fyddwch yn cael casgliad gwastraff y cyngor.

Cyn y gall casgliadau'r cyngor ddechrau, bydd angen asesu'r safle a bydd angen archebu a thalu am finiau'r cyngor. Mae rheolwr eich adeilad, eich landlord, y datblygwr tai neu'r cwmni rheoli yn gyfrifol am hyn.  

Cymorth i ddefnyddio biniau'n gywir

Gallwn helpu preswylwyr sy'n byw mewn blociau o fflatiau i ddeall sut i ddefnyddio eu biniau'n gywir. Rydym hefyd yn hapus i drefnu digwyddiadau addysg curo drysau. Os hoffech chi drefnu digwyddiad curo drysau, gofynnwch i'ch cwmni rheoli gysylltu â ni fel y gallwn drefnu mynediad i'r adeilad.

Os nad yw eich biniau wedi'u diogelu, a bod pobl nad ydynt yn byw yn eich datblygiad yn gallu cael gafael ar y biniau, mae perygl y cânt eu defnyddio fel man tipio anghyfreithlon. Rydym yn argymell yn gryf bod biniau'n cael eu diogelu. Os nad ydych yn credu eu bod wedi'u diogelu, dylech siarad â rheolwr eich adeilad, eich landlord neu'r cwmni rheoli a gofyn iddynt wneud newidiadau.