Mae oedi 8 wythnos gyda danfoniadau bagiau. Os yw'n bosibl, ewch i nôl bagiau a bagiau cadis o'ch stocwyr lleol.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y
gwasanaeth casgliadau hylendid, gallwch hefyd gasglu bagiau porffor newydd.
Gallwch ddefnyddio'r chwiliwr codau post ar y dudalen hon i ddod o hyd i'ch stociwr bagiau agosaf neu i archebu bagiau a chadis i'w dosbarthu i chi.
Os yw'n bosibl, ewch i nôl bagiau a leinwyr cadis o'ch stociwr lleol.
Dewch o hyd i'ch stociwr lleol
Nodwch eich cod post i ddod o hyd i’ch stociwr agosaf ar gyfer:
- bagiau ailgylchu gwyrdd
- leinwyr cadis
Gallwch godi'r rhain yn lleol mewn Hybiau, llyfrgelloedd, siopau a swyddfeydd post.
Nid yw bagiau gwyrdd ond ar gael mewn ardaloedd sydd ddim yn rhan o’r cynllun ailgylchu sachau ar wahân.
Rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch cyflenwr agosaf neu er mwyn archebu ar-lein:
Gellir casglu cadis bwyd cegin o’r mwyafrif o
Hybiau, ac eithrio:
-
Hyb Butetown
-
Pafiliwn Butetown – Hyb Ieuenctid
-
Capel i Bawb
-
Hyb Llanisien
-
Hyb Radur
-
Hyb STAR
-
Hyb yr Eglwys Newydd
Os na allwch gyrraedd eich stociwr lleol
Diben ein gwasanaeth dosbarthu yw helpu cwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyrraedd y stocwyr eu hunain.
Ni allwch archebu bagiau ailgylchu gwyrdd ar-lein. Casglwch fagiau gwyrdd o’ch stociwr lleol.
Nodwch eich cod post i archebu'r eitemau canlynol ar-lein:
- Leinwyr cadis
- Cadis bwyd cegin
- Cadis bwyd ymyl ffordd
- Bagiau deunydd hylendid (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth)
Dysgwch am fathau eraill o finiau a bagiau.
Os ydych wedi cofrestru i gael cymorth i roi eich biniau a'ch bagiau allan,
gallwch gael gwybod am y dosbarthiad bagiau.
Os ydych chi'n byw mewn fflat efallai y bydd eich concierge adeilad neu'ch cymdeithas dai yn gallu darparu'r hyn sydd ei angen arnoch chi.