I wneud cais i bleidleisio o dramor, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Os ydych wedi'ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor, cewch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Dysgwch fwy am ba etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt.
Efallai y cewch bleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol ynglŷn â phwy sy'n cael pleidleisio.
Dod o hyd i ragor o wybodaeth am refferenda.
Os ydych yn gymwys, cewch bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Bydd angen i chi wneud y dewis hwn pan fyddwch chi'n cofrestru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
