I wneud cais i bleidleisio drwy'r post, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer:
- un etholiad ar ddyddiad penodol,
- cyfnod penodol, neu
- yn barhaol.
Bydd pecyn pleidlais bost yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer pob etholiad
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post ym mhob etholiad gan ddefnyddio un ffurflen.
Lawrlwythwch y ffurflen gais pleidlais bost ar gyfer pob math o etholiad (PDF, 202 KB).
Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen, anfonwch hi atom drwy e-bost neu'r post.
Os oes angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon ond na allwch wneud hynny, cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn bapur.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi:
- Diweddaru eich llofnod ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned bob 5 mlynedd.
- Adnewyddu eich cais am bleidlais bost ar gyfer Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu bob 3 blynedd.
Dysgwch fwy am adnewyddu eich pleidlais bost neu ddiweddaru eich llofnod.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned yn unig
Gallwch wneud cais fel hyn os ydych chi eisiau pleidleisio drwy'r post yn unig ar gyfer y mathau hyn o etholiadau.
Lawrlwythwch y ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned yn unig (47kb DOC), o wefan GOV.UK.
Mae'r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i'w llenwi'n gywir.
Bydd gofyn i chi ddarparu:
- y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio,
- eich dyddiad geni, ac
- eich llofnod wedi'i ysgrifennu â llaw.
Os na allwch chi lofnodi'r ffurflen neu os na allwch chi lofnodi mewn ffordd gyson, cysylltwch â ni.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, anfonwch hi atom drwy e-bost neu'r post.
Os oes angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon ond na allwch wneud hynny, cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn bapur.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn unig
Gallwch wneud cais fel hyn os ydych chi eisiau pleidleisio drwy'r post yn unig ar gyfer y mathau hyn o etholiadau.
Gwnewch gais ar-lein i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU ac mewn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn unig ar wefan GOV.UK.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU ac mewn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn unig (47kb DOC), o wefan GOV.UK.
Mae'r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i'w llenwi'n gywir.
Bydd gofyn i chi ddarparu:
- y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio,
- eich dyddiad geni,
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, ac
- eich llofnod wedi'i ysgrifennu â llaw (neu lun o hwn mewn inc du ar bapur gwyn plaen, os nad ydych chi'n argraffu ac yn llenwi'r ffurflen â llaw).
Os na allwch chi lofnodi'r ffurflen neu os na allwch chi lofnodi mewn ffordd gyson, cysylltwch â ni.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, anfonwch hi atom drwy e-bost neu'r post.
Os oes angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon ond na allwch wneud hynny, cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn bapur.
E-bost: [email protected]
Post:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd CF10 4UW
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post ar wefan GOV.UK.
Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost
Wrth bleidleisio drwy'r post, dylech chi:
- farcio'ch pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol
- llenwi'r datganiad pleidleisio drwy'r post
- rhoi'r bleidlais a'r datganiad yn yr amlen a ddarparwyd
- selio'r amlen eich hun
Postiwch eich pleidlais cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chyfri.
Os ydych chi'n rhy hwyr i bostio eich papur pleidleisio, gallwch fynd ag ef i'ch gorsaf bleidleisio yn eich etholaeth erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i'r swyddfa Gwasanaethau Etholiadol yn Neuadd y Sir.
Cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio
Gwybodaeth am gyflwyno pleidleisiau post yn bersonol.
Etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Cymuned: cyflwyno pleidleisiau post
Ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Cymuned, nid oes terfyn ar nifer y pleidleisiau post y gallwch eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio.
Etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu: cyflwyno pleidleisiau post
Ar gyfer etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gallwch gyflwyno hyd at 6 phleidlais bost mewn gorsaf bleidleisio. Mae hyn yn cynnwys eich pleidlais chi eich hun.
Os byddwch yn cyflwyno mwy na 6 phleidlais bost ar gyfer y mathau hyn o etholiadau, bydd eich pleidlais chi yn dal i gael ei chyfrif, ond bydd yr holl bleidleisiau eraill yn cael eu gwrthod.
Nid oes angen i chi ddangos prawf adnabod i gyflwyno pleidleisiau post.
Os ydych yn cyflwyno pleidleisiau post, bydd angen i chi lenwi ffurflen 'cyflwyno dogfennau pleidleisio drwy'r post' yn yr orsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor.
Wrth lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi gynnwys:
- eich enw,
- eich cyfeiriad, a
- y rheswm rydych chi'n cyflwyno pleidleisiau post pobl eraill.
Bydd eich pleidleisiau post yn cael eu gwrthod os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen yn iawn, neu'n foddhaol yn nhyb y swyddog awdurdodi. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu cyflwyno i'r swyddog canlyniadau yn Neuadd y Sir.
Ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif os byddwch yn ei chyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad arall, er enghraifft, un o'n Hybiau.
Mae'r gofynion cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau post neu drwy ddirprwy.
Mae'n drosedd:
- darganfod sut mae rhywun arall wedi pleidleisio, neu
- dweud wrth bobl eraill sut mae rhywun wedi pleidleisio.
Ymgyrchwyr gwleidyddol
Os ydych chi'n ymgyrchydd gwleidyddol, rydych chi hefyd wedi'ch gwahardd rhag delio â phleidleisiau post, oni bai:
- mai'r bleidlais yw eich pleidlais chi eich hun,
- bod y bleidlais gan aelodau teulu agos, neu
- mae'r bleidlais gan rywun rydych chi'n gofalu amdano.
Beth i'w wneud os caiff eich papur pleidleisio ei golli neu ei ddwyn
Mae angen i'ch papur pleidleisio arddangos eich dewis pleidleisio yn glir. Os yw wedi ei ddifrodi neu os ydych chi'n ei golli, bydd angen i chi gael un arall.
Gallwch naill ai:
- gysylltu â ni i ofyn am un newydd.
- casglu un newydd gennym yn Neuadd y Sir hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Ni allwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio drwy'r post neu os yw eich papur pleidleisio wedi'i golli neu ei ddifrodi.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r
Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
