Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn y gallwch chi bleidleisio yn etholiadau neu refferenda'r DU. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Nid oes angen i chi fynd â dull adnabod â llun i etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Cymuned.
Ar gyfer etholiadau San Steffan a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fynd â cherdyn adnabod â llun i gadarnhau eich hunaniaeth cyn y gallwch bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Deall pa fath o gerdyn adnabod â llun a dderbynnir.
Pan fyddwch chi'n pleidleisio'n bersonol, rydych chi'n mynd i'r orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ar ddiwrnod yr etholiad ac maen nhw'n adeiladau cyhoeddus fel ysgolion neu neuaddau lleol fel arfer.
Cyn i chi fynd i bleidleisio, sicrhewch eich bod yn gwybod lle mae eich gorsaf bleidleisio. Efallai nad dyma'r un agosaf i lle rydych chi'n byw, ac efallai y bydd wedi newid ers i chi bleidleisio'r tro diwethaf.
Dim ond yn eich gorsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi y gallwch bleidleisio'n bersonol.
Bydd cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio. Byddwn yn anfon y cerdyn drwy'r post ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio.
Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
Bydd angen i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad i'r staff yn yr orsaf bleidleisio ar ôl i chi gyrraedd.
Yn dibynnu ar ba etholiad sy'n cael ei gynnal, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos eich cerdyn adnabod â llun.
Byddwch chi'n cael papur pleidleisio a fydd yn cynnwys manylion am sut i bleidleisio a'r dewisiadau pleidleisio ar gyfer y bleidlais neu'r refferendwm.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i fwrw eich pleidlais, gofynnwch i'r staff yn yr orsaf bleidleisio.
Dysgwch fwy am bleidleisio'n bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
