Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno newidiadau i:
- sut rydych chi'n gwneud cais am bleidlais bost mewn etholiadau penodol, a
- pa mor aml y gallai fod angen i chi adnewyddu pleidlais bost.
Gwiriwch pa etholiadau yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn, a sut y gallwch bleidleisio drwy'r post:
Etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae newidiadau i'r mathau hyn o etholiadau.
Gelwir etholiadau Seneddol y DU hefyd yn 'etholiadau cyffredinol'.
Bydd angen i chi adnewyddu eich pleidlais bost bob 3 blynedd.
Os gwnaethoch gais am eich pleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu cyn 31 Hydref 2023, bydd angen i chi ei hadnewyddu cyn Ionawr 2026. Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost neu'r post i'ch atgoffa i drefnu i'w hadnewyddu.
Os na fyddwch yn ymateb pan fyddwn yn cysylltu â chi ynglŷn ag adnewyddu eich pleidlais bost, bydd eich pleidlais bost yn dod i ben. Dim ond yn eich gorsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi y gallwch bleidleisio wyneb yn wyneb.
Etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chymunedol
Nid oes newidiadau i'r mathau hyn o etholiadau.
Bydd angen i chi ddiweddaru eich llofnod gyda ni bob 5 mlynedd o hyd i bleidleisio yn y mathau hyn o etholiadau, yn ôl y gyfraith. Byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, tua dechrau'r un flwyddyn, i drefnu hyn.
Dysgwch sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chymunedol.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth neu i wirio pryd y bydd eich pleidlais bost yn dod i ben, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
