I wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Os na allwch chi bleidleisio'n bersonol gallwch chi ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Pleidlais drwy ddirprwy yw'r enw ar hyn.
Dim ond o dan amgylchiadau penodol y cewch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, gan gynnwys:
- bod i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad
- bod â phroblem feddygol neu anabledd
- methu â phleidleisio'n bersonol oherwydd gwaith, addysg neu wasanaeth milwrol
- wedi'ch cofrestru fel etholwr tramor
Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo/ynddi i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrth eich dirprwy sut rydych chi'n dymuno i'ch pleidlais gael ei bwrw.
Mae'r gofynion cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau post neu drwy ddirprwy. Mae'n drosedd:
- darganfod sut mae rhywun arall wedi pleidleisio, neu
- dweud wrth bobl eraill sut mae rhywun wedi pleidleisio.
Os byddwch yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Cymuned, ni fydd angen i'r person rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan ddangos prawf adnabod ffotograffig.
Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy yn Etholiadau Seneddol y DU neu etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â'u prawf adnabod ffotograffig eu hunain. Os nad oes ganddynt brawf adnabod ffotograffig, ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.
Gwneud gais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a'r Cyngor Cymuned
Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy (208kb PDF) o wefan GOV.UK, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom drwy'r post neu e-bost.
Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen, anfonwch hi atom drwy e-bost neu'r post.
Os oes angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon ond na allwch wneud hynny, cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn bapur.
Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiadau Seneddol y DU a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Cwblhewch y ffurflen, llofnodwch hi, ac anfonwch hi atom drwy'r post neu e-bost.
Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen, anfonwch hi atom drwy e-bost neu'r post.
Os oes angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon ond na allwch wneud hynny, cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn bapur.
E-bost: [email protected]
Post:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad.
Beth i'w wneud os byddwch yn methu'r terfyn amser i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Os gwnaethoch chi fethu'r terfyn amser ar gyfer y bleidlais drwy ddirprwy, efallai y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys os ydych chi'n:
- methu â phleidleisio'n bersonol oherwydd eich cyflogaeth neu anabledd ac
- y daethoch yn ymwybodol o'r rheswm hwn ar ôl y terfyn amser i bleidleisio drwy ddirprwy
Gallwch wneud cais tan 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy brys yn seiliedig ar eich cyflogaeth.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy brys yn seiliedig ar eich anabledd.
Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom drwy e-bost.
Rhaid i berson priodol lofnodi'r ffurflen gais. Er enghraifft, eich cyflogwr neu feddyg.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
