I wneud cais i bleidleisio o dramor, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Gallwch chi bleidleisio o dramor, os:
Byddwch chi dramor dros dro
Os byddwch chi dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Bydd angen i chi wneud y trefniadau o flaen llaw.
Bydd yn rhaid i chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy os oes llai na 2 wythnos tan yr etholiad neu'r refferendwm ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto.
Os dewiswch wneud cais i bleidleisio drwy'r post, bydd eich pleidlais bost yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad rydych chi wedi ei ddewis ddim cynharach nag 16 diwrnod cyn yr etholiad. Mae angen i chi ddychwelyd y bleidlais cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
Ydych chi'n symud neu'n byw dramor
Gallwch chi gofrestru fel pleidleisiwr tramor:
- os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig cymwys
- os oeddech wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf (neu os oeddech chi'n rhy ifanc i fod wedi cofrestru pan wnaethoch chi adael y DU)
Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol. Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn. Cewch nodyn atgoffa pan fydd yn adeg adnewyddu.
Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, cewch eich dileu oddi ar y gofrestr a bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
