Gall trwyddedau cymunedol helpu gyda materion fel rhedeg eich safle cymunedol.
Mae'r math hwn o drwydded yn caniatáu i chi barcio ger y safle, heb dalu am barcio bob dydd.
Mae safle cymunedol yn safle nad oes angen iddo dalu ardrethi busnes. Gallai enghreifftiau fod:
- mannau addoli cyhoeddus,
- neuaddau cymunedol, neu
- eiddo sy'n darparu gwasanaethau lles i bobl anabl.
Gallwch wneud cais am drwydded gymunedol os ydych yn:
- rhedeg safle cymunedol o fewn parth rheoli parcio, ac
- yn wirfoddolwr neu'n aelod o staff yn y safle.
Ni allwch wneud cais am drwydded gymunedol os yw'ch safle y tu allan i barth rheoli parcio.
Rhaid i'ch cerbyd hefyd fod:
- wedi'i yswirio'n gywir,
- wedi'i drethu, a
- mewn cyflwr addas i'r ffordd.
Parcio gyda thrwydded gymunedol
Gallwch ddefnyddio eich trwydded gymunedol i barcio ar unrhyw stryd o fewn y parth parcio hwnnw gan ddefnyddio mannau deiliaid trwydded defnydd a rennir yn unig. Mae'r rhain yn fannau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer:
- deiliaid trwydded a pharcio talu ac aros, neu
- ddeiliaid trwydded a pharcio aros cyfyngedig.
Gan fod trwyddedau'n ddigidol, nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen arwyddion a thelerau ac amodau MiPermit yn ofalus. Os nad ydych chi'n defnyddio'ch trwydded yn gywir, gallech dderbyn dirwy parcio.
Lle na allwch barcio gyda thrwydded gymunedol
Yn wahanol i barthau rheoli parcio eraill, mae gan barthau C1, C2, C3 a C4 fannau deiliaid trwydded preswylwyr yn unig ynddynt. Ni allwch ddefnyddio trwydded gymunedol i barcio mewn man parcio fel hyn, yn y parthau hyn.
Nid yw trwyddedau cymunedol yn caniatáu parcio:
- mewn mannau a gedwir ar gyfer defnyddwyr penodol, megis mannau wedi'u marcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas neu feddygon (yn ogystal â mannau parcio i ddeiliaid trwydded preswylwyr yn unig ym mharthau C1, C2, C3 a C4),
- ar linellau melyn neu igam-ogam,
- lle mae parcio wedi'i atal, neu
- lle gallech achosi rhwystr.
Mathau o drwyddedau
Mae 2 fath o drwydded gymunedol:
Trwyddedau Cerbyd Penodol
Nid oes modd trosglwyddo trwyddedau cerbyd penodol. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer eich cerbyd eich hun y gallwch ddefnyddio'r drwydded.
Trwyddedau Nad Ydynt yn Rhai Cerbyd Penodol
Mae modd trosglwyddo trwyddedau nad ydynt yn rhai cerbyd penodol. Mae hyn yn golygu y gall eich sefydliad eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.
I wneud hyn, bydd angen i chi ddiweddaru'r manylion cerbyd ar MiPermit bob tro y byddwch chi'n defnyddio'r drwydded ar gyfer cerbyd gwahanol.
Costau
Gweld costau trwyddedau cymunedol:
| Hyd | Cost |
|---|---|
| 6 mis | £17.50 |
| 12 mis | £35 |
Gwneud cais am drwydded gymunedol
I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu:
- bil trydan, nwy, neu dŵr, gohebiaeth neu ddogfennaeth swyddogol arall sy'n dangos enw'ch sefydliad,
- cyfeiriad a chod post y safle, a
- manylion cerdyn credyd neu ddebyd.
Efallai y byddwn yn adolygu eich cais dros amser i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion hyn.
Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddogfennaeth sydd ynghlwm i gefnogi'ch cais yn eich cysylltu'n glir â chyfeiriad y drwydded. Os nad yw'n gwneud hynny, efallai y byddwn yn canslo eich trwydded.
Bydd rhaid i chi greu cyfrif ar MiPermit i wneud cais am drwydded ddigidol.
