Rydym yn cyhoeddi trwyddedau busnes ar gyfer lleoliadau ar y stryd ac oddi ar y stryd.
Dim ond ar gyfer gweithredu eich busnes y gellir defnyddio'r rhain. Er enghraifft, ar gyfer:
- dosbarthu nwyddau, neu
- ddarparu gwasanaeth
Nid yw trwyddedau busnes ar gyfer teithio i'r gweithle neu ohono, nac ar gyfer darparu lle parcio i staff.
Ni fyddwch yn gymwys os oes gan eich busnes ei leoedd parcio oddi ar y stryd ei hun ar gael.
Mae trwyddedau busnes yn ddigidol, felly nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.
Mathau o drwyddedau busnes
Mae yna 2 fath o drwyddedau busnes.
Trwyddedau cerbyd penodol
Mae'r trwyddedau hyn yn rhai cerbyd penodol am gyfnod y drwydded.
Rhaid i'r cerbyd fod wedi'i gofrestru i'r busnes neu wedi'i yswirio at ddefnydd masnachol neu fusnes.
Trwyddedau trosglwyddadwy
Mae'r trwyddedau hyn yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.
Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.
Trwyddedau maes parcio
Efallai y bydd eich busnes yn gymwys i gael trwyddedau mewn rhai meysydd parcio. Dim ond busnesau yn y strydoedd cyfagos sy'n gymwys.
Dim ond yn y mannau pwrpasol ar gyfer trwyddedau busnes yn y maes parcio y gellir defnyddio'r trwyddedau.
Dyma'r meysydd parcio sy'n rhan o'r cynllun:
- Gray Street, CF11 9NE
- Harvey Street, CF5 1QW
- Severn Road, CF11 3DU
- Stryd Wellington, CF11 9BL
Gall busnesau cymwys wneud cais am hyd at 3 thrwydded. Gall hyn fod yn unrhyw gyfuniad o drwyddedau cerbyd penodol a thrwyddedau trosglwyddadwy.
Costau trwyddedau maes parcio
Gweler y costau ar gyfer trwyddedau maes parcio cerbyd penodol a throsglwyddadwy.
| Hyd y drwydded | Cost |
|---|---|
| 12 mis | £100 |
| 6 mis | £50 |
| Hyd y drwydded | Cost |
|---|---|
| 12 mis | £150 |
| 6 mis | £75 |
Mae trwyddedau trosglwyddadwy yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.
Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.
Trwyddedau ar y stryd
Efallai y bydd eich busnes yn gymwys i gael trwyddedau parcio ar y stryd.
Mae'r trwyddedau ar gael mewn rhai parthau parcio o amgylch y ddinas yn unig. Mae lleoliadau parcio yn dibynnu ar ba barth y mae eich busnes ynddo.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael trwydded ar y stryd os yw'ch busnes yn un o'r parthau rheoli parcio canlynol:
- C1 Dwyrain Cathays,
- C2 Cathays Canolog,
- C3 Gorllewin Cathays,
- C4 Gogledd Gabalfa,
- C5 Heol y Dderwen Deg, neu
- C6 Gogledd Cathays.
Bydd eich trwydded yn eich galluogi i barcio yn unrhyw un o'r canlynol:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig,
- mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, a
- mannau talu ac aros a rennir.
Nid oes modd i chi barcio yn unrhyw un o'r canlynol mannau i breswylwyr yn unig, neu fannau i ddoctoriaid.
Parcio ar y stryd: costau trwyddedau ar gyfer cerbydau penodol
Gweler costau trwyddedau parcio ar y stryd ar gyfer cerbydau penodol.
Os oes gennych gerbyd disel, codir tâl ychwanegol at gost y drwydded. Y tâl disel yw £20 am 12 mis, neu £10 am 6 mis.
Bydd cost y drwydded yn dibynnu ar y canlynol:
- maint yr injan os cafodd eich cerbyd ei gofrestru cyn 1 Mawrth 2001
- allyriadau os cafodd eich cerbyd ei gofrestru ar ôl 1 Mawrth 2001
Cerbydau a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001:
| Maint yr injan | 12 mis | 6 mis |
|---|---|---|
| Hyd at 1550cc | £80 | £40 |
| 1551 i 2950cc | £100 | £50 |
| 2951cc a throsodd | £120 | £60 |
| Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA | £140 | £70 |
| Maint yr injan | 12 mis | 6 mis |
|---|---|---|
| Hyd at 1550cc | £180 | £90 |
| 1551 i 2950cc | £200 | £100 |
| 2951cc a throsodd | £220 | £110 |
| Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA | £240 | £120 |
Cerbydau a gofrestrwyd ar ôl 1 Mawrth 2001:
| Allyriadau Co2 | 12 mis | 6 mis |
|---|---|---|
| Hyd at 100g/km | £80 | £40 |
| 101 i 170g/km | £100 | £50 |
| 171g/km a throsodd | £120 | £60 |
| Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA | £140 | £70 |
| Allyriadau Co2 | 12 mis | 6 mis |
|---|---|---|
| Hyd at 100g/km | £180 | £90 |
| 101 i 170g/km | £200 | £100 |
| 171g/km a throsodd | £220 | £110 |
| Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA | £240 | £120 |
Parcio ar y stryd: costau trwyddedau trosglwyddadwy
Gweler costau trwyddedau parcio ar y stryd trosglwyddadwy:
- Bydd y drwydded drosglwyddadwy gyntaf yn costio £200.
- Bydd yr ail drwydded drosglwyddadwy yn costio £300.
Mae trwyddedau trosglwyddadwy yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.
Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.
Gwneud cais am eich trwydded
Gallwch wneud cais am eich trwydded drwy MiPermit.
Gallwch brynu trwyddedau am 6 neu 12 mis.
Bydd angen eich cyfeirnod ardrethi busnes a'ch cerdyn debyd neu gredyd yn barod.
Wrth brynu trwydded cerbyd penodol, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- llyfr log sy'n dangos bod y cerbyd wedi'i gofrestru i'ch busnes, neu
- dystysgrif yswiriant sy'n dangos bod y cerbyd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes neu fasnachol.
Sicrhewch eich bod yn darllen y telerau ac amodau yn ofalus. Os na fyddwch yn defnyddio eich trwydded yn gywir, byddwch yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb.
