Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwella safonau presenoldeb yn yr ysgol

Gallai plant nad ydynt yn yr ysgol:

  • golli cyfleoedd cymdeithasol a phrofiadau hanfodol
  • fod mewn perygl o niwed neu fod mewn sefyllfaoedd anniogel
  • fod mewn mwy o berygl o gyflawni troseddau a bod yn ddioddefwyr trosedd eu hunain.
  • fod yn fwy tebygol o gael eu cam-drin.

Mae Cyngor Caerdydd ac Ysgolion yn gweithio'n galed i wella safonau ledled y ddinas. Mae presenoldeb rheolaidd yn hynod o bwysig ac felly rydym wedi datblygu cynllun gweithredu a fydd yn gweithio tuag at wella safonau:

  • Mae dull gweithredu pum cam ar gyfer rheoli presenoldeb wedi cael ei ddatblygu rhwng ysgolion, swyddogion presenoldeb ysgolion, y Gwasanaeth Lles Addysg ac asiantaethau eraill i helpu i gefnogi teuluoedd.
  • Mae Cyngor Caerdydd wedi ailstrwythuro'r Gwasanaeth Lles Addysg i alluogi Ysgolion Uwchradd i gyflogi eu Swyddogion Presenoldeb Ysgolion penodedig eu hunain i fynd i'r afael â phroblemau pob ysgol yn fwy uniongyrchol. Mae Swyddogion Presenoldeb Ysgolion hefyd yn gweithio gydag ysgolion bwydo cynradd i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau ar gam cynnar.
  • Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg penodedig hefyd, sy'n helpu'r ysgol i wella cyfraddau presenoldeb a lleihau absenoldeb nad ydyw wedi'i awdurdodi a thriwantiaeth.
  • Cynhelir ymgyrchoedd rheolaidd i Hel Triwantiaid mewn rhannau o'r ddinas lle ceir llawer o driwantiaeth, bob mis, gan weithio gyda phartneriaid fel yr heddlu i ddod o hyd i ddisgyblion a ddylai fod yn yr ysgol.

Hel Triwantiaid

Cynhelir ymgyrchoedd proffil uchel drwy gydol y flwyddyn i hel triwantiaid. Mae'n ffordd effeithiol o siarad â phlant a phobl ifanc a ddylai fod yn yr ysgol, sydd yn aml gyda'u rhieni.

Mae Swyddogion Triwantiaeth y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn yr heddlu i fynd i'r afael ag ardaloedd allweddol yn y ddinas. Yn y rhan fwyaf o achosion nid oedd unrhyw esgus dros absenoldeb y plentyn.

Gweler hefyd