Bydd angen i chi drefnu slot i ymweld â chanolfan ailgylchu.
Oriau agor
Mae'r ganolfan ar agor bob dydd o 8:30am i 5:30pm.
Bydd y ganolfan ar gau ar ddydd Nadolig, dydd San Steffan a dydd Calan.
Weithiau, am resymau gweithredol, bydd rhaid i ni gau'r ganolfan ar fyr rybudd. Os bydd hyn yn digwydd ar benwythnos, ni fyddwn o bosibl yn gallu diweddaru ein gwefan. Dilynwch ein cyfrifon Twitter neu Facebook i gael diweddariadau.
Ni allwch gyrraedd canolfannau ailgylchu ar droed neu ar feic.
Ceir cyfyngiad uchder o 2m yn y safle.
Y Caban yn Ffordd Lamby
Mae'r Caban yn siop ailgylchu gymunedol sy'n cael ei rhedeg gan Wastesavers ac wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby. Gallwch brynu neu roi eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach yn y siop. Nid oes angen i chi wneud apwyntiad.
I gael gwybodaeth am oriau agor, ewch i wefan Wastesavers. I gael gwybod pa eitemau sy'n cael eu derbyn yn Y Caban gallwch ddarllen y diweddaraf ar Facebook (Y Caban yn Ffordd Lamby).
Sut mae dod o hyd i ni
Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby
Ffordd Lamby
Tredelerch
CF3 2HP
