Ein nod yw cynnig opsiwn cost-effeithiol ar gyfer busnesau bach a chanolig i waredu deunydd ailgylchu a gwastraff masnachol.
Mae'r ganolfan ailgylchu masnachol hefyd yn agored i eiddo preswyl, a allai fod â cherbyd sy'n anaddas i'r Ganolfan Ailgylchu Cartrefi e.e. fan tipper, fan sylfaen olwyn hir neu â bagiau cymysg o wastraff na ellir ei ailgylchu nad ydyn nhw'n fodlon neu'n methu gwahanu i'w hailgylchu.
Bydd hyn yn helpu i gynyddu'r gwastraff masnachol sy'n cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi drwy annog masnachwyr i ailgylchu, a bydd hefyd yn helpu i leihau defnydd anghyfreithlon o ganolfannau ailgylchu fel llefydd i waredu gwastraff masnachol.
Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth?
Mae'r gwasanaeth ar gael i bob busnes masnachol, ond mae wedi'i dargedu'n bennaf at fusnesau bach a chanolig, y diwydiant adeiladu, landlordiaid a busnesau lleol.
Mae uchafswm terfyn pwysau o 7.5 tunnell. Mae hyn yn cynnwys y cerbyd a'r llwyth.
Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael ar gyfer eiddo preswyl.
Does dim angen bod yn breswylydd neu fusnes sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Dim ond yn safle Clos Bessemer y gallwch dalu â cherdyn debyd neu gredyd.
Pa wastraff a deunydd ailgylchu sy'n dderbyniol?
- Gwastraff cyffredinol
- Ailgylchu cymysg
- Gwastraff gardd
- Seiliau caled
- Pren
- Cardfwrdd
- Bwrdd plastr
- Metel
Anogir masnachwyr i wahanu cymaint o wastraff masnachol â phosibl cyn dod i'r Ganolfan Ailgylchu Masnachol.
| Deunydd | Taliadau 2025 i 2026 | Isafswm cost | Lleiafswm tunelledd |
|---|---|---|---|
| Gwastraff cyffredinol (y dunnell) | £220 | £110 | Hanner tunnell |
| Craidd caled a rwbel (y dunnell) | £68 | £0 | 0 tunnell |
| Pren (y dunnell) | £115 | £28.75 | Chwarter tunnell |
| Gwastraff gardd (y dunnell) | £85 | £0 | 0 tunnell |
| Bwrdd plaster (y tunnell) | £195 | £48.75 | Chwarter tunnell |
| Cardfwrdd (y tunnell) | £0 | £0 | 0 tunnell |
| Metel sgrap | £0 | £0 | 0 tunnell |
| Batris ceir | £0 | £0 | 0 tunnell |
| Teiars car (fesul uned) | £16 | £16 | Fesel uned |
| Teits tractor (fesul uned) | £68 | £68 | Fesul uned |
| Olew (mwynol, peiriannol, llysiau) | £472 | £118 | Chwarter tunnell |
| Oergell fasnachol (fesul uned) | £131.25 | £131.25 | Fesul uned |
| Oergell breswyl (fesul uned) | £63 | £63 | Fesul uned |
| Eitemau domestig mawr (fesul uned) | £126 | £126 | Fesul uned |
| Eitemau trydanol bach | £0 | £0 | 0 tunnell |
| Matres (per unit) | £37 | £37 | Fesul uned |
| Pwyso cyhoeddus | £25 | £25 | Fesul pwyso |
Nid yw'r prisiau'n cynnwys TAW.
*Gall y costau newid yn unol â gwerthoedd y farchnad.
Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth
Cam 1
Pwyso ar y Bont Dafol a datgan pa fath o wastraff sydd gennych.
Cam 2
Mynd i'r man gollwng ar gyfarwyddyd y staff a dadlwytho (caiff eich gwastraff ei archwilio i sicrhau eich bod yn dadlwytho'r gwastraff a ddatganwyd gennych).
Cam 3
Parhau i'r man pwyso a phrosesu gwaith papur.
Cam 4
Talu am y gwastraff a ddadlwythwyd gyda cherdyn debyd neu gredyd cyn gadael y safle.
Fel masnachwr bydd yn ofynnol i chi gael trwydded cludo gwastraff.
Dysgwch am rwymedigaethau cyfreithiol a gofynion cyfreithiol i sicrhau eich bod yn gwaredu gwastraff yn gywir.
Amseroedd Agor
| Dydd Llun i Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul | |
|---|---|---|---|
| Bore | 7am i 12:30pm (mynediad olaf am 12:00pm i gerbydau sydd angen eu dadlwytho â llaw) | 7am i 12:00pm (mynediad olaf am 11:45am i gerbydau sydd angen eu dadlwytho â llaw) | Ar gau |
Prynhawn | 1pm i 3pm (mynediad olaf am 2:45pm i gerbydau sydd angen eu dadlwytho â llaw) | Ar gau | Ar gau |
Mae'r ganolfan wedi cau ar wyliau banc.
Sut i ddod o hyd i ni
Clos Bessemer
Caerdydd
CF11 8XH
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Masnachol, cysylltwch â ni.
Ffon: 29 2087 208
