Mae craffu yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth leol. Ei brif dasg yw sicrhau bod penderfyniadau Cyngor Caerdydd yn atebol, yn agored ac yn dryloyw.
Trwy gael mwy o leisiau i gymryd rhan a sicrhau bod amrywiaeth eang o dystiolaeth briodol yn cael ei hystyried, gall craffu helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau gwell sydd o fudd i bawb.
