Mae'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn adolygu:
- Anableddau Corfforol,
- Gofal Cymdeithasol i Oedolion,
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
- Budd-daliadau,
- Diogelwch Cymunedol,
- Gwasanaethau Cymunedol,
- Trosedd ac Anhrefn,
- Tai,
- Iechyd Meddwl,
- Adnewyddu Cymdogaethau,
- Diogelu
Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion.
Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Fideo o'r Cynghorydd Shaun Jenkins, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.
Gwaith craffu parhaus
Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gwaith craffu yn y gorffennol
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
Crynodeb o ‘Cymorth i Breswylwyr gyda Chostau Byw’ Cyngor Caerdydd (PDF, 699 KB)
- Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau (Tachwedd 2018 - adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
- Llety Dros Dro ac â Chymorth - Porth Pobl Sengl (Ionawr 2019)
- 'Yn Nes Adref': Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir i Oedolion ag Anabledd Dysgu (Chwefror 2021)
- Cymorth Cyngor Caerdydd i Drigolion gyda Chostau Byw (Ionawr 2023)
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl' (2015). Dadansoddiad o Ymatebion i'r Arolwg, 2015
- 'Anghenion Gwybodaeth a Chymorth i Rieni ar y Prosiect "Agosach at Adre" ar gyfer Oedolion Ifanc ag Anableddau Dysgu; 2019.
- Papur Briffio Cefndir ar Droseddau Cyffuriau yng Nghaerdydd a Chymru, 2021
