Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pwyllgor craffu plant a phobl ifanc

Mae'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn adolygu:

  • Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
  • Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol
  • Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion,
  • Gwasanaethau Cymorth Ysgolion,
  • Cludiant Ysgolion,
  • Anghenion Addysgol Arbennig,
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, a
  • Gwella Ysgolion,
  • Diogelu,
  • Cydweithfa Fabwysiadu Ranbarthol,
  • Gwasanaethau Chwarae,
  • Gwasanaethau Llywodraethwyr,
  • Lles a Chynhwysiant Addysgol,
  • Consortia Addysg,
  • Datblygiad yn y Blynyddoedd Cynnar,

Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc.

Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.

Fideo o'r Cynghorydd Lee Bridgeman, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.

Gwaith craffu parhaus

Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.

 

Gwaith craffu yn y gorffennol

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Adroddiadau ymchwiliad

Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.

Crynodeb Adroddiad yr Ymchwiliad i Leoliadau y Tu Allan i'r Cyngor (PDF, 495 KB)

  • Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir (Mai 2018)
  • Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau - Adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion (PCGCO)
  • Cymorth a Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles Plant

Adroddiadau Ymchwil

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.

  • Arolwg ar Hyfforddiant a Chymorth i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghaerdydd, 2014
  • Gwybodaeth gymharol am y prosesau atgyfeirio ac asesu mewn awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a Lloegr, 2015
  • Arfer Gorau ac Argymelledig wrth Fynd i'r Afael â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant, 2015