Mae Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad yn adolygu:
- Comisiynu a Chaffael,
- Cyfathrebu,
- Datblygu Polisïau Strategol,
- Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
- Perfformiad,
- Adfer ac Adnewyddu Sefydliadol,
- Cynllun Datblygu Lleol,
- Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu,
- Adnoddau Dynol,
- Cyllid,
- Ymgynghori a Chyfranogi,
- Ymgysylltu,
- Cydraddoldeb,
- TGCh a Gwasanaethau Cwsmeriaid,
- Digidol,
- Eiddo ac Ystadau'r Cyngor,
- Cynllun Corfforaethol,
- Lleoliadau.
Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adolygu Polisi.
Mae aelodau Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Fideo o'r Cynghorydd David Walker, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.
Gwaith craffu parhaus
Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gwaith craffu yn y gorffennol
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
- Crynodeb o adroddiad ymchwiliad Arweinyddiaeth Cwsmeriaidydd (PDF, 554 KB)
- Rheoli'r Ystâd dan Fodel Landlord Corfforaethol (Mai 2018)
- Arweinyddiaeth Cwsmeriaid (Mai 2018)
- Absenoldeb Salwch - craffu byr ac ymchwil (Medi 2018)
- Model Asesu Effaith Craffu (Mai 2020)
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Arferion meincnodi a dichonoldeb, 2014
- Adolygiad o Effaith Craffu Cyngor Caerdydd gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau CFPS, 2018
- Methodolegau ar gyfer Asesu Effaith Craffu, 2019
