Mae Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn adolygu:
- Bioamrywiaeth,
- Profedigaeth,
- Cerdded,
- Gwastraff,
- Trafnidiaeth,
- Toiledau,
- Cynaliadwyedd,
- Glanhau Strydoedd,
- Ailgylchu,
- Cynllunio,
- Parcio,
- Caerdydd Un Blaned,
- Rheoli Llifogydd,
- Priffyrdd,
- Iechyd yr Amgylchedd,
- Beicio,
- Lleoliadau.
Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol.
Mae aelodau Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Fideo o'r Cynghorydd Ramesh Patel, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.
Gwaith craffu parhaus
Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi datblygu eu rhaglen waith.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gwaith craffu yn y gorffennol
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
- Darllenwch y Crynodeb canllaw cynllunio atodol (Word doc, 260 KB)
- Crynodeb adroddiad ymchwiliad y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (PDF, 560 KB)
- Gwella Ansawdd Aer Caerdydd (Mai 2018)
- Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd (Chwefror 2019)
- Rheoli Bioamrywiaeth a'r Amgylchedd Naturiol yng Nghaerdydd (Medi 2019)
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Strwythurau, Strategaethau a Phrofiadau Codi Tâl Awdurdodau Lleol dethol ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC), 2016
- Arolwg Sbwriel, 2013 - Pryderon y cyhoedd am sbwriel, glendid strydoedd a baw cŵn
- Gwella Mentrau Ansawdd Aer - Enghreifftiau o Arfer Gorau, 2018
- Arolwg Sbwriel 2018 - Arolwg dilynol ar bryderon y cyhoedd am sbwriel a thipio anghyfreithlon, 2018
