Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Talu eich Treth Gyngor

​​​​ Gallwch dalu eich Treth Gyngor yn y ffyrdd canlynol:
  • Ar-lein 
  • Debyd Uniongyrchol 
  • Trosglwyddiadau Banc 
  • Taliad Ffôn Awtomataidd 
  • Trwy’r post 
  • Mewn unrhyw Swyddfa Bost neu siop​


Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch bil treth gyngor.

Sicrhewch fod gennych y manylion canlynol wrth law:

  • rhif cyfrif eich treth gyngor 
    (ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2')
  • eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
  • y swm rydych am ei dalu


talu ar-lein


Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon.

Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:

  • rhif cyfrif eich treth gyngor
    (ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2')
  • eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
  • y swm rydych am ei dalu

Ffoniwch 029 2044 5900​​. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.

Gallwch siarad ag un o’n hymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid am eich bil. Nid yw hwn yn wasanaeth 24 awr, ac mae ond ar agor yn ystod oriau agor y ganolfan alwadau​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Anfonwch eich siec neu’ch archeb bost gyda’ch cerdyn talu’r dreth gyngor i:

Cyngor Caerdydd

Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Dylid croesi Sieciau / Archebion Post a’u gwneud yn daladwy i Cyngor Caerdydd. Gofynnwch am dderbynneb os oes angen un arnoch.

Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

Gallwch dalu’ch Treth Gyngor ym mhob swyddfa bost (gydag arian parod neu siec) ac mewn siopau sy’n dangos arwydd PayPoint (gydag arian parod yn unig).

I wneud hyn, bydd angen cerdyn talu’r dreth gyngor arnoch. Gallwch wneud cais am gerdyn drwy lenwi ein ffurfle​​​n.​​​

Cwblhewch y ffurflen

Gallwch dalu’ch bil yn syth i gyfrif banc y Cyngor:

Nat West Bank, 

96 Heol-y-Frenhines,

Caerdydd, CF10 2GR 

Cod didoli: 52-21-06

Rhif cyfrif: 20408838​


 

Cofiwch ddyfynnu eich rhif cyfrif Treth Gyngor.




​​​​​​ ​​​​
​​​​​​​​​​
​​​
Cardiff Gov app logo
Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau’r cyngor.​
Download app via Apple store Download app via Google Play store​​

​​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd