Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Troadau a waherddir

Mae rhai symudiadau (troadau) penodol a waherddir ar rai o'n ffyrdd. Gall anwybyddu'r gwaharddiadau hyn fod yn beryglus iawn a gall arwain at ddamwain.

Mae troad a waherddir yn digwydd pan fydd gyrwyr yn anwybyddu arwyddion sy'n rhoi cyfarwyddiadau o ran cyfeiriad mae'n rhaid iddynt ei gymryd neu beidio â'i gymryd. Mae gorfodi troadau a waherddir yn helpu i reoli sut mae traffig yn defnyddio'r ffordd ac mae'n ei wneud yn ddiogelach ar gyfer cerddwyr a gyrwyr eraill.

Cydnabod arwydd am droad a waherddir

Rhestrir yr arwyddion hyn yn Rheolau'r Ffordd Fawr, yr hoffech chi gyfeirio ato o bosibl. Maent yn arwyddion naill ai â:

  • Saeth wen ar gefndir glas sy'n dangos y cyfeiriad mae'n rhaid i chi ei gymryd, neu
  • Cylch coch allanol gyda llinell goch sy'n dangos y cyfeiriad mae'n rhaid i chi beidio â mynd iddo
Arwyddion

Beth mae'n rhaid i chi ei wneud

Arwydd Traffig

Syth ymlaen yn unig: Mae'n rhaid i chi barhau yn syth ymlaen yn unig. Mae'n rhaid i chi beidio â throi i'r chwith, i'r dde neu wneud tro pedol.

Troi i'r chwith yn unig: Mae'n rhaid i chi droi i'r chwith ar y gyffordd o'ch blaen. Mae'n rhaid i chi beidio â throi i'r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol.

Troi i'r dde yn unig: Mae'n rhaid i chi droi i'r dde ar y gyffordd o'ch blaen. Mae'n rhaid i chi beidio â throi i'r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol.

Troi i'r chwith: Mae'n rhaid i chi droi i'r chwith. Mae'n rhaid i chi beidio â throi i'r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol.

Troi i'r Dde: Mae'n rhaid i chi droi i'r dde. Mae'n rhaid i chi beidio â throi i'r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol.

Beth mae'n rhaid i chi beidio â'i wneud

Arwydd Traffig

Gwneud troad i'r dde

Gwneud troad i'r chwith

Gwneud tro pedol

Awgrymiadau gorau er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)

Byddwn yn dosbarthu HTCau am fethu cydymffurfio ag unrhyw un o'r arwyddion traffig hyn.

Gall arwyddion troadau a waherddir fod cyn cyffordd, ar y gyffordd neu ynghlwm wrth oleuadau traffig. Y ffordd orau o osgoi cael HTC yw ymgyfarwyddo yn llawn â'r holl arwyddion traffig ar y ffordd sydd yn Rheolau'r Ffordd Fawr a chadw golwg am yr arwyddion uchod bob amser. Weithiau bydd rhai dosbarthiadau o gerbydau, er enghraifft bysus, yn gallu gwneud troad a waherddir fel arall, a chaiff y cerbydau hyn eu dangos bob amser ar yr arwyddion rheoleiddio.