Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwaharddiadau ar fathau penodol o gerbydau

Nid yw pob ffordd yn addas ar gyfer rhai mathau o gerbydau.

Weithiau ni chaniateir cerbydau i yrru mewn rhai ardaloedd (maent wedi eu gwahardd). Mae hyn er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo'n hawdd am resymau amgylcheddol neu ddiogelwch.

Adnabod yr arwyddion

Fel arfer, mae arwyddion gyda chylch coch yn rhai sy'n gwahardd. Weithiau ceir adegau pan fydd modd i gerbydau sydd fel arfer wedi cael eu gwahardd yrru ar hyd y ffyrdd hyn.

Gallwch weld gwybodaeth am fathau gwahanol o arwyddion, a rhai o'r eithriadau mwyaf cyffredin.

Arwyddion
YstyrArwydd Traffig
Dim cerbydau modur
Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy'n cael eu gwthio
Dim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwydd
Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur

 

Esboniad o arwyddion eithrio cyffredin
EithriadYstyr
"Ac eithrio ar gyfer Mynediad"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynediad i eiddo ar y ffordd honno.
"Ac eithrio mynediad i eiddo oddi ar y stryd"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynedfa ar gyfer cerbydau i adeilad oddi ar y stryd nad yw ond yn gallu ei ddefnyddio o'r ffordd honno (megis maes parcio oddi ar y stryd).
"Ac eithrio deiliaid trwyddedau"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai eich bod wedi cael trwydded gan y Cyngor ar gyfer y lleoliad hwnnw .
"Ac eithrio llwytho"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno.
"Ac eithrio llwytho gan gerbydau nwyddau"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno ac rydych yn gyrru cerbyd nwyddau.

Awgrymiadau gorau er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)

Rydym yn cyhoeddi HTCau am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r arwyddion ffyrdd hyn.

Er mwyn osgoi cael HTC, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod:

  • pa fath o gerbyd rydych chi'n ei yrru? Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa arwyddion sy'n berthnasol i chi.
  • ystyr y gwahanol fathau o eithriadau a allai fod yn bresennol, a gwirio a oes unrhyw un yn berthnasol.