Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Prynu microfenter

Gall prynu gwasanaethau microfenter gyda'ch taliad uniongyrchol roi'r rhyddid a'r hyblygrwydd i chi ddewis rhywun sy'n briodol i fodloni eich anghenion gofal a chymorth.

Dewis eich microfenter

Mae microfentrau yn fusnesau gofal a chymorth bach iawn. Prif fantais prynu gwasanaethau gan ficrofenter yw nad oes angen i chi fod yn gyflogwr cyfreithiol i'r ficrofenter, yn hytrach rydych yn prynu gwasanaethau ganddi yn yr un modd â sut y byddech yn prynu gwasanaethau gan fasnachwr.

Er bod taliadau uniongyrchol yn eich galluogi i gael mwy o ddewis o ran pwy sy'n rhoi gofal i chi, mae dal angen i ni sicrhau mai dyma'r person mwyaf priodol i fodloni eich anghenion. Dim ond gan ficrofenter sy'n ymddangos yng Nghyfeiriadur Microfentrau Cymunedol Small Good Stuff y gallwch brynu gwasanaethau.

Gall ein Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol, a ddarperir gan Ganolfan Byw'n Annibynnol (CBA) Dewis, eich helpu i wneud cyflwyniadau gyda microfentrau sy'n ymddangos yn y cyfeiriadur os oes angen.

Os yw microfenter hefyd yn aelod o'r teulu a'ch bod yn dymuno prynu gwasanaethau, mae rhai amodau y mae'n rhaid eu bodloni felly cyn gwneud unrhyw drefniadau rhaid trafod hyn gyda'ch gweithiwr cymdeithasol.

 

Prynu gwasanaethau microfenter

Cyn cyflogi unrhyw un, mae'n syniad da meddwl am yr hyn rydych yn chwilio amdano a pha fath o berson rydych am eich cefnogi a'r math o dasgau yr hoffech i ficrofenter eu cyflawni. Efallai y byddai'n ddefnyddiol ysgrifennu rhestr yn cynnwys y sgiliau a'r tasgau yr hoffech i ficrofenter eu cael a'u gwneud. Bydd y rhestr hon hefyd yn eich helpu i ddatblygu contract sy'n hanfodol wrth brynu gwasanaethau. Rhaid i chi gofio bob amser bod yn rhaid i'r tasgau y gallwch ofyn i'r ficrofenter helpu â nhw fodloni eich anghenion a nodir yn eich Cynllun Gofal a Chymorth.

Gallwch brynu gofal gan fwy nag un ficrofenter er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth yr aseswyd bod ei angen arnoch. Bydd CBA Dewis yn gallu eich cynghori ar hyn.

Rhaid i chi gymryd y camau hyn cyn dewis microfenter i roi'ch gofal:

  • Sicrhewch fod y ficrofenter wedi'i chynnwys yng Nghyfeiriadur Small Good Stuff.
  • Sicrhewch fod gan y ficrofenter wiriad manwl dilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ei le.
  • Gwiriwch fod gan y ficrofenter yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys ar waith.
  • Llofnodwch gontract sy'n nodi'n glir eich disgwyliadau eich hun a rhai'r ficrofenter cyn i unrhyw ofal a chymorth gael eu rhoi. Dylai'r contract hwn ystyried gwybodaeth am gynllunio wrth gefn (y ficrofenter sy'n gyfrifol am ddarparu sesiynau newydd yn lle sesiynau a fethwyd), telerau allweddol, a chyfnodau rhybudd ar gyfer sut i ddod â'r contract i ben.

Os byddwch yn dewis prynu gwasanaethau gan ficrofenter, bydd y contract rhyngoch chi a'r ficrofenter. Ni fydd gan Gyngor Caerdydd na CBA Dewis unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â'r contract.

 

Beth allwch chi ei dalu i'r ficrofenter?

Byddwch yn cael eich ariannu i dalu £19.63 yr awr i ficrofenter. Efallai y bydd rhai microfentrau yn codi mwy na hyn yr awr.

Os ydych yn dymuno defnyddio microfenter sy'n codi mwy na'r gyfradd wedi'i gosod, bydd angen i chi dalu'r costau ychwanegol eich hun. Rhaid gwneud hyn fel taliad ar wahân i unrhyw gyfraniad cleient a aseswyd at ddibenion archwilio.

 

Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol

Rydym yn ariannu CBA Dewis i ddarparu ein Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol i bawb sy'n derbyn taliadau uniongyrchol gennym. Mae yno i'ch cefnogi gyda hyn oll a gall roi gwybod i chi beth yw eich cyfrifoldebau ar ôl i chi brynu microfenter.

Os ydych am brynu microfenter, bydd hefyd yn eich cefnogi i:

  • Ysgrifennu disgrifiad o'r gwasanaethau sydd eu hangen.
  • Gwneud cyflwyniadau i ficrofentrau.
  • Cyfweld â microfentrau posibl.
  • Cwblhau'r gwiriadau sydd eu hangen cyn prynu gwasanaethau.

Rydym yn annog pawb sy'n derbyn taliadau uniongyrchol i ddefnyddio CBA Dewis ar gyfer y rhan fwyaf o'r agweddau ar reoli eu taliadau uniongyrchol, os nad pob un.

 

Mwy o wybodaeth

Mae cymorth ar brynu microfentrau neu wybodaeth gyffredinol am daliadau uniongyrchol ar gael gan CBA Dewis. Gellir cysylltu â hi trwy ffonio 029 2240 5060.

Os ydych yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu sydd wedi cofrestru fel microfenter, dylech siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol cyn gwneud unrhyw drefniadau pellach.