Mae'r mwyafrif ohonom eisiau cael rheolaeth dros ein bywydau a byw mor annibynnol â phosibl, ond weithiau mae angen ychydig o gymorth ychwanegol arnom i wneud hyn.
Rydyn ni'n cynnig ac yn trefnu gwasanaethau gofal i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu ddiogelwch, gan gynnwys pobl sy'n gadael yr ysbyty a gofalwyr mewn sefyllfaoedd anodd. Gallwn gynnig unrhyw rai o'r canlynol i'ch helpu i fyw yn fwy annibynnol:
- gwybodaeth a chyngor.
- wweithgareddau â chymorth mewn canolfannau dydd a lleoliadau cymunedol eraill.
- cymorth i'ch galluogi i fanteisio ar hyfforddiant neu gyflogaeth.
- seibiant byr i ofalwyr.
- addasiadau i'r cartref neu offer arbennig i helpu pobl â salwch neu anabledd gyda'u gweithgareddau bob dydd.
- offer cyfathrebu i fonitro eich diogelwch a'ch galluogi i alw am help.
- llety â chymorth neu ofal mewn cartref preswyl neu nyrsio.
- gofal a chymorth personol yn eich cartref.
Mae Gwasanaethau Cartref Cyngor Caerdydd (Tîm Adnoddau Cymunedol a Gwasanaeth Byw â Chymorth Caerdydd) yn cael eu rheoleiddio a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gweler ein hadroddiadau arolygu a'n sgorau cyhoeddedig.
Oes gennyf hawl i gael gwasanaethau?
Os ydych yn oedolyn ag anghenion gofal cymdeithasol a all effeithio ar eich iechyd, diogelwch neu annibyniaeth, gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch. Mae gennym ddyletswydd i asesu eich anghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.
Gall anghenion godi o:
- namau neu anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu
- oedran
- salwch cronig
- anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia neu broblemau gyda'r cof.
- dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau.
Byddwn yn ystyried a oes angen gofal a chymorth arnoch i gyflawni canlyniadau personol mewn perthynas â'r canlynol:
- eich gallu i gynllunio neu reoli eich arferion personol neu ddyddiol
- eich gallu i gyfathrebu
- eich amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
- eich gallu i gymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
- eich gallu i gynnal perthnasau teuluol neu bersonol pwysig eraill
- eich gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau cymdeithasol ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach
- eich gallu i fodloni eich cyfrifoldebau gofalu am blentyn
Gallech hefyd fod yn gymwys oherwydd amgylchiadau gwahanol, er enghraifft os ydych yn ofalwr di-dâl mewn sefyllfa anodd.
029 2023 4234
