Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trais domestig

Gwasanaeth arbenigol Caerdydd ar gyfer menywod (a'u plant) sydd yn dioddef neu'n dianc rhag unrhyw ffurf ar drais yn erbyn menywod yw RISE.

Mae RISE yn wasanaeth nad yw'n barnu ac sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth ynghylch:

  • cam-drin domestig (gan gynnwys rheoli drwy orfodaeth),
  • trais rhyw a cham-fanteisio rhywiol,
  • stelcio ac ymyrryd,
  • masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern,
  • priodas dan orfod,
  • troseddau 'anrhydedd', ac
  • anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).

Gall RISE helpu gyda materion ymarferol i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel. Gallai hyn gynnwys gwneud eich cartref presennol yn ddiogel neu eich helpu chi i gael lle arall, diogel, i fyw.

Os ydych yn chwilio am gymorth, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, ar (029) 2046 0566.

Gall y gwasanaeth roi cymorth wyneb wrth wyneb, dros y ffôn, neu drwy sgwrsio ar-lein ar eu gwefan www.rise-cardiff.cymru.

Gallwch hefyd gysylltu â RISE os ydych yn weithiwr proffesiynol sydd eisiau cyngor neu atgyfeirio rhywun.

Dioddefwyr Gwrywaidd

Os ydych yn ddyn sy'n cael eich cam-drin yn ddomestig a/neu sy'n dioddef trais rhywiol gallwch chithau hefyd ddefnyddio gwasanaeth RISE.

Neu gallwch gysylltu â Phroject Dyn, sy'n rhoi cyngor a chymorth cyfrinachol i ddynion yng Nghaerdydd sydd wedi cael profiad o gamdriniaeth ddomestig.

Ffôn: 0808 801 0321 e-bost: [email protected]

Mae'r gwasanaeth ar agor ddydd Llun a dydd Mawrth o 10.00am tan 4.00pm a dydd Mercher 10.00am tan 1.00pm.

Trais Rhywiol

'Ynys Saff' yw Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhyw (SARC) y rhanbarth. Mae ei gweithwyr proffesiynol profiadol, sydd oll wedi eu hyfforddi, yn rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth i ddynion, menywod, plant a phobl ifanc, yn sgil ymosodiad rhyw. Maen nhw'n gweithio o Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac mae modd cysylltu â nhw ar 029 2033 5795.

Mae Llwybrau Newydd/New Pathways yn wasanaeth nad yw'n barnu ac sy'n rhoi cymorth cwnsela i bobl sydd wedi dioddef trawma, yn enwedig drwy drais rhywiol neu gamdriniaeth rywiol. Cysylltwch â nhw ar (01685) 379 310 neu [email protected].

Llinell Gymorth Byw heb Ofn

Mae llinell gymorth Byw heb Ofn yn wasanaeth 24 awr dwyieithog sy'n weithredol ledled Cymru. Llywodraeth Cymru sy'n ei gyllido, ac mae ar gael i unrhyw un y mae camdriniaeth yn effeithio arni neu arno.

Gall y llinell gymorth roi cyngor a chymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol, teuluoedd a ffrindiau sy'n poeni am rywun, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Gellir cysylltu â nhw ar 0808 80 10 800 neu drwy wefan Byw Heb Ofn

Cofiwch: Os ydych mewn perygl yn syth, ffoniwch 999.

Strategaeth Ranbarthol

I gyflawni'r gofynion cyfreithiol sydd arnom ac i gefnogi'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol genedlaethol, mae sefydliadau statudol ac arbenigol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi creu strategaeth ranbarthol 2018-2023 o'r enw 'Yn Ein Dwylo Ni'. Mae'n ymdrin â:

  • cham-drin domestig,
  • trais rhywiol,
  • cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys drwy'r diwydiant rhyw),
  • caethwasiaeth fodern,
  • priodas dan orfod,
  • anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM),
  • cam-fanteisio'n rhywiol ar blant (CSE),
  • stelcio, ac
  • ymyrryd rhywiol.

Gall menywod, dynion, plant a phobl ifanc ddioddef o'r uchod, a gallant effeithio ar bawb, ond rydym yn derbyn mai ar fenywod y mae'r effaith gan amlaf.

Rydym am sicrhau bod y bobl sy'n byw, gweithio ac astudio yn, ac yn ymweld â'n rhanbarth, yn cael cyfle i fyw bywydau cadarnhaol, annibynnol heb effaith trais a chamdriniaeth.

Gweld y ddogfen strategaeth, y cynllun gweithredu ac adroddiadau eraill sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Partneriaeth Caerdydd.

 

Statws Dinas Rhuban Gwyn

Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw'r ymgyrch fyd-eang fwyaf gan ddynion a bechgyn sy'n gweithio i ddod â diwedd i drais yn erbyn menywod a merched, hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a fersiwn newydd o wrywdod.

Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn statws Dinas Rhuban Gwyn dros y 4 mlynedd diwethaf. Mae cael y dyfarniad yn dangos ein hymrwymiad, fel awdurdod lleol ac fel dinas, i'w gwneud yn glir na fydd camdriniaeth ddomestig a phob ffurf arall ar drais yn erbyn menywod a merched yn cael eu goddef. Mae rhagor o wybodaeth am Ruban Gwyn yn y DU yma: www.whiteribbon.org.uk

Ers derbyn ein statws Dinas Rhuban Gwyn am y tro cyntaf yn 2014, mae'r ymgyrch leol wedi tyfu'n gyson, gyda gweithgareddau'n ennyn cefnogaeth genedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y gwely blodau y tu allan i Gyngor Caerdydd sy'n arddangos y Rhuban Gwyn ar adegau allweddol o'r flwyddyn.

Un o'n digwyddiadau allweddol yw 'Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi', digwyddiad blynyddol a drefnir ar y cyd a Chymdeithas Dai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg hefyd erbyn hyn. Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd pob blwyddyn, sy'n cyd-daro â 'Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched' y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yr adeg honno pob blwyddyn. Gallwch ddilyn ein gweithgareddau Rhuban Gwyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #rhubangwyncaerdyddarfro / #whiteribboncardiffvale

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd Camdriniaeth Ddomestig Caerdydd ar 029 2053 7009