Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaethau Tŷ Canna

Mae Tŷ Canna yn wasanaeth adfer iechyd meddwl eilaidd lle mae angen atgyfeiriad. Gallwch drafod atgyfeiriad Tŷ Canna gyda'ch tîm iechyd meddwl cymunedol (TIMC).

Os cewch eich atgyfeirio, byddwn yn cwrdd â chi i asesu eich anghenion a'ch nodau adfer. Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn rhoi'r math cywir o gefnogaeth i chi.

Gallwch gael eich atgyfeirio atom am:

  • wasanaethau allgymorth 1 i 1, lle gallwn gytuno ar nodau clir a strategaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae hwn yn wasanaeth cyfnod penodol.

  • gweithgareddau grŵp, a fydd yn parhau i fod ar agor i chi cyn belled â'ch bod yn cymryd rhan yn rheolaidd, a

  • gwybodaeth a chefnogaeth berthnasol.

Unwaith y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth, gallwn hefyd gynnig:

  • anogaeth i gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a datblygu Tŷ Canna, a

  • chyfleoedd gwirfoddoli mewnol y gallwch eu trafod gyda ni.

Cael eich atgyfeirio at y gwasanaeth

Mae angen i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio at Dŷ Canna:

  • wybod am yr atgyfeiriad, a

  • bod yn barod i ymgysylltu'n rheolaidd â gwasanaeth adfer.

Bydd eich atgyfeiriad ond yn cael ei dderbyn os ydych chi:

  • wedi cofrestru gyda TIMC (Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol), ac

  • wedi cael Cydlynydd Gofal wedi'i ddyrannu i chi.

Byddwn yn ystyried pob atgyfeiriad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn ai peidio.Os na dderbynnir eich atgyfeiriad, byddwn yn cysylltu â'ch Cydlynydd Gofal i esbonio'r penderfyniad hwn.

Mae 'na restr aros hir ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu â chi drwy'r post i drefnu cyfarfod cychwynnol. Os na fyddwch yn dod i'r cyfarfod hwn, byddwn yn rhoi 2 gyfle arall i chi ddod. Os na fyddwch yn dod i'r trydydd apwyntiad, byddwn yn cau eich atgyfeiriad.

 

Gwasanaeth allgymorth 1 i 1

Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth 1 i 1 wythnosol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau bywyd. Gallwn gytuno ar nodau clir a strategaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i ddiwallu eich anghenion. Gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig ar sail cyfnod penodol rydym yn ei adolygu'n gyson.

Os nad oes digon o ymgysylltu neu os nad yw unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth yn briodol, byddant yn cael eu tynnu o'r gwasanaeth. Bydd y cydlynydd gofal bob amser yn cael gwybod am hyn, ond Tŷ Canna fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys cefnogaeth gydag:

  • atgyfeirio at gymorth budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau,

  • datblygu eich addysg, eich hyfforddiant neu eich sgiliau gwaith,

  • gadael y tŷ ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach,

  • magu hyder o gwmpas pobl eraill,

  • cael gwaith gwirfoddol, a gwneud cais am swyddi,

  • cefnogaeth ac atgyfeirio wrth fynd i addysg bellach, a

  • defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gall teithio o amgylch Caerdydd fod yn heriol, yn enwedig pan mai trafnidiaeth gyhoeddus yw eich unig opsiwn. Rydym am hyrwyddo eich annibyniaeth felly gallwn helpu gyda hyfforddiant trafnidiaeth gyhoeddus a chynllunio llwybrau.

 

Gweithgareddau grŵp

Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd i bobl sydd wedi eu hatgyfeirio atom ar gyfer gweithgareddau.

Rydym yn cynnal dros 50 o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys:

  • dosbarthiadau gwneud gemwaith,

  • pampro,

  • cerddoriaeth

  • grwpiau sinema,

  • sba,

  • boreau coffi,

  • grwpiau ffotograffiaeth, a

  • teithiau.

Byddwn yn rhoi amserlen wedi'i diweddaru i chi yn eich asesiad.

 

Symud 'mlaen

Mae ein tîm allgymorth iechyd meddwl yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymorth cyfoedion a gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl.

Mae gwirfoddolwyr yn dangos esiampl i eraill ac yn rhan annatod o'n tîm. Maent yn helpu eraill i oresgyn unigrwydd drwy ddangos y gall newid ddigwydd ac y gall nodau gael eu cyflawni.

Mae gweld gwirfoddolwyr yn cyflawni eu nodau yn cael effaith ddomino ar yr unigolion sy'n ymuno â'n gwasanaeth, gan ddangos bod newid yn bosibl.

Mae rhai gwirfoddolwyr wedi gadael y gwasanaeth i gymryd gwaith mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a gofal cymdeithasol. Mae gwirfoddolwyr eraill wedi symud 'mlaen i gwblhau addysg bellach mewn gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a nyrsio. Mae gwirfoddoli yn Nhŷ Canna wedi bod yn amhrisiadwy, gan roi'r sgiliau i wirfoddolwyr ddilyn eu gobeithion a'u breuddwydion.

 

Gwirfoddoli

Byddwn yn gweithio gydag unigolion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person, gan gydnabod eu galluoedd os ydyn nhw'n addas i rôl wirfoddoli. Gallwn eich cefnogi fel gwirfoddolwr yn y dyfodol a chynnig:

  • cyngor,

  • gwybodaeth,

  • cymorth cymdeithasol, a

  • hyfforddiant mewnol a chorfforaethol rheolaidd.

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned. Byddwn hefyd yn eich helpu i gael mynediad at gyrsiau achrededig mewn:

  • recriwtio a dethol,

  • cymorth cyntaf,

  • hylendid bwyd,

  • cymorth cyntaf iechyd meddwl,

  • camddefnyddio sylweddau,

  • fframwaith sefydlu gofal cymdeithasol, a

  • hyder a phendantrwydd.

 

Partneriaethau

Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau cymunedol eraill sy'n cynnig:

  • cefnogaeth,
  • addysg,
  • hyfforddiant,
  • cyngor gyrfaoedd, a
  • chyfleoedd cyflogaeth.

Mae'r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys:

 

Prosiect Teuluoedd

Rydym yn cynnal y prosiect hwn yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae ar agor i bawb sydd wedi cael eu hatgyfeirio at/eu cofrestru gyda Thŷ Canna, a'u plant.

Mae'r prosiect yn cynnwys teithiau a digwyddiadau rheolaidd a thymhorol i deuluoedd.

 

Gwasanaethau ar gyfer cymunedau ymylol

Rydym yn gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth sydd â hunaniaethau ymylol gyda pharch a sensitifrwydd.

Ar hyn o bryd mae gennym y gwasanaethau cymorth canlynol ar gyfer hunaniaethau penodol:


Menywod

Rydym yn cynnig gweithgareddau a mentrau i fenywod yn unig.


Dynion

Rydym yn cynnig gweithgareddau a mentrau i ddynion yn unig.


LHDTC+

Rydym yn cynnal grwpiau ac yn darparu cefnogaeth i unigolion LHDTC+.


Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Rydym yn cynnig grwpiau a chymorth i unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.


Pontio

Mae'r gwasanaeth hwn yn benodol ar gyfer pobl rhwng 18 a 30 oed. Mae ar gyfer pobl ifanc sy'n pontio i Wasanaethau Oedolion. Mae'r prosiect yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau cyffrous i bobl ifanc.

 

Gwasanaethau defnyddiol eraill

Gweld gwasanaethau defnyddiol eraill.


C.A.L.L

Ffôn: 0800 132 737 Tecstiwch: 'help' to 81066


Samariaid

Ffôn: 116123 (am ddim o unrhyw ffôn) neu 0330 094 5717 (taliadau lleol yn berthnasol)


Llinell gymorth testun SHOUT

Tecstiwch: 'Shout' to 85258


Llinell gymorth iechyd meddwl y GIG

Ffôn: 111