Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Caerdydd sy'n dda i bobl hŷn

Mae Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn yn rhwydwaith o sefydliadau sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De-ddwyrain Cymru, partneriaid yn y trydydd sector a gwasanaethau eraill sydd wedi ymrwymo i wneud y ddinas yn lle gwell i dyfu'n hŷn.

Daeth Caerdydd yn aelod o Rwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Mawrth 2022. Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymuned yn lle gwych i heneiddio.

Mae gwefan newydd sy'n dda i bobl hŷn wedi'i lansio yng Nghaerdydd, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn blynyddol y Cenhedloedd Unedig.

Rydym am ei gwneud hi'n haws i oedolion hŷn ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol a pharhau i gymryd rhan yn eu cymunedau. Mae'r wefan hon yn cynnig lleoliad canolog ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a chymorth lleol a all helpu pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda.

Ewch i wefan Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn.

Adroddiad uchafbwyntiau

Mae Adroddiad Uchafbwyntiau Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn yn amlinellu'r cynnydd y mae'r ddinas wedi'i wneud ers 2024 ar draws yr wyth maes ffocws allweddol:

  • Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd
  • Tai
  • Mannau Agored ac Adeiladau Cyhoeddus
  • Trafnidiaeth
  • Cyfranogiad Cymdeithasol
  • Cyfathrebu a Gwybodaeth
  • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
  • Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol

Gweler Adroddiad Uchafbwyntiau Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024 (PDF, 5 MB) hyd yma.

Cynllun Gweithredu

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu blaenoriaethau Caerdydd am y pum mlynedd nesaf. Fe'i datblygwyd gyda mewnbwn gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys:

  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd,
  • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a,
  • sefydliadau trydydd sector.

Amcanion allweddol a amlinellir yn y cynllun gweithredu:

  • Gwella cymorth i ofalwyr di-dâl a gweithio gyda nhw i greu gwasanaethau newydd.
  • Datblygu cymunedau sy'n deall dementia a hyrwyddo gofal dementia o ansawdd uchel.
  • Adolygu hyfforddiant ar gyfer gofal dementia a chymhwyso arferion gorau.
  • Gwella cymorth iechyd meddwl a lleihau unigedd cymdeithasol trwy wasanaethau cydgysylltiedig.
  • Datblygu cynlluniau byw yn y gymuned ac atebion tai ar gyfer pobl hŷn.
  • Gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi pobl hŷn gyda chynllunio teithio a chynhwysiant digidol.
  • Cynyddu cynhwysiant digidol er mwyn gallu cael gafael ar wybodaeth yn haws.
  • Gwella gwasanaethau cynghori, cymorth digidol, a gweithdai ar gyfer pobl hŷn.
  • Hyrwyddo cyflogaeth sy'n dda i bobl hŷn a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • Annog digwyddiadau a gweithgareddau pontio'r cenedlaethau.

Cymerwch olwg ar Gynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024 i 2028 (PDF, 10 MB).