Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Egwyddorion ar gyfer darparu gofal a chymorth

Wrth i nifer y bobl hŷn yn y ddinas gynyddu, mae'n bwysicach nag erioed bod gennym ddull clir ac effeithiol o gefnogi ein dinasyddion hŷn.

Ein nod yw cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Rydym yn cydnabod faint mae pobl hŷn yn ei gyfrannu at ein dinas a byddwn yn darparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir, i alluogi pobl hŷn i barhau i fyw bywydau llawn ac actif.

Mae ymchwil wedi dangos bod gan "heneiddio gartref" lawer o fanteision. Mae'n haws cadw'n actif a chynnal cysylltiadau cymdeithasol presennol wrth fyw yn eich cartref eich hun. Gall hyn yn ei dro fagu gwydnwch, atal y risg o gwympiadau a gwella canlyniadau iechyd. Gall cysur a chynefindra cartref helpu i atal dryswch a lliniaru effaith problemau cof.

Felly, elfen allweddol o'n dull yw cefnogi annibyniaeth, trwy ystod o fesurau gan gynnwys offer, addasiadau cartref a thechnoleg. Wrth i anghenion gynyddu, bydd y gofal a'r cymorth a ddarperir hefyd yn cynyddu, i unigolion a'u gofalwyr di-dâl.

Mae ein gwerthoedd craidd a'n hegwyddorion polisi ar gyfer darparu gofal a chymorth wedi'u:

  • Tegwch a Chynaliadwyedd: Ein nod yw sicrhau tegwch a chynaliadwyedd wrth ddarparu gofal a chymorth, helpu unigolion a bodloni eu hanghenion wrth sicrhau bod y ddarpariaeth yn gost-effeithiol ac yn gynaliadwy i'r dyfodol.
  • Dewis: Byddwn yn rhoi dewis o ran darpariaeth gofal lle bynnag y bo modd, tra'n cydbwyso hyn ag ystyried cynaliadwyedd a chost gofal.
  • Darparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir: Byddwn yn adeiladu ar gryfderau unigolyn, gan annog annibyniaeth nid dibyniaeth trwy sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu ar yr adeg gywir ac ar y lefel gywir.
  • Llais a Rheolaeth Unigol: Rydym wedi ymrwymo i roi llais cryf i unigolion, a rheolaeth dros eu gofal a'u cymorth, gan eu helpu i gyflawni eu nodau personol eu hunain a gweithio gyda nhw i ddileu rhwystrau i'w lles.
  • Ansawdd Gofal: Lle mae angen gofal a chymorth, byddwn yn sicrhau bod hyn o ansawdd da, gan fodloni anghenion unigol pobl hŷn yn effeithiol, gan sicrhau eu bod yn gallu heneiddio gydag urddas.
  • Tegwch wrth Godi Tâl am Ofal: Ein nod yw sicrhau bod ein polisïau codi tâl yn glir, yn dryloyw ac yn deg a bod y gofal a ddarperir yn parhau'n fforddiadwy.

Bydd y gwerthoedd hyn yn llywio pob agwedd ar sut rydym yn darparu gofal a chymorth i bobl hŷn.


Ein hegwyddorion polisi

Mae'r egwyddorion polisi canlynol yn egluro sut y byddwn yn darparu cymorth cynaliadwy i bobl hŷn yng Nghaerdydd.

Mae'r egwyddorion hyn wedi'u grwpio yn 5 adran:

  • Hyrwyddo Annibyniaeth
  • Gofal Cartref
  • Lleoliadau Cartref Gofal
  • Codi Tâl am Ofal a Chymorth
  • Adennill Dyledion

Hyrwyddo annibyniaeth

  • Ein nod yw cynnig cymorth ar yr adeg gywir ac yn y ffordd gywir, fel y gall cymaint o unigolion â phosibl aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
  • Byddwn yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i gefnogi unigolion i gadw eu hannibyniaeth ac i aros yn actif ac yn gysylltiedig â'u cymuned.
  • Byddwn yn gweithredu dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfder, gan ddeall yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a gweithio gydag ef i nodi ystod o atebion cymunedol i gefnogi ei les.
  • Byddwn yn ceisio cydnabod a hyrwyddo'r hyn sy'n gweithio'n dda i bob unigolyn, tra'n cynnig cymorth priodol lle mae anawsterau neu bryderon wedi'u nodi.
  • Byddwn yn gweithredu dull "gartref", gan gefnogi'r unigolyn i aros yn ei gartref ei hun trwy nodi'r offer, yr addasiadau a'r dechnoleg gywir a all gefnogi ei annibyniaeth.

 

Gofal cartref

  • Pan fydd anghenion unigolyn yn cynyddu, byddwn yn gweithio gydag ef i gynnal asesiad lles llawn. Pan gaiff ei benderfynu bod gan yr unigolyn angen asesedig cymwys, nad oes modd ei fodloni trwy ddulliau eraill, byddwn yn trefnu i ofal cartref gael ei ddarparu.
  • Pan fydd unigolyn yn dymuno comisiynu ei ofal ei hun, byddwn yn darparu cyllid a chymorth iddo i'w helpu i wneud ei drefniadau gofal ei hun. Taliad uniongyrchol yw hyn. Bydd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwneud dim ond i fodloni anghenion asesedig cymwys unigolyn.
  • Bydd yr uchafswm cyfradd fesul awr y byddwn yn ei dalu am ofal cartref ac ar gyfer taliadau uniongyrchol yn cael ei nodi bob blwyddyn a'i gyhoeddi ar ein gwefan.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond ar gyfer gofal personol y caiff gofal cartref ei ddarparu. Ni fyddwn fel arfer yn darparu gofal cartref ar gyfer cymorth arall fel glanhau domestig a gwasanaethau golchi dillad. Yn hytrach, byddwn yn gweithio gydag unigolyn fel y gall gyflawni'r cymorth sydd ei angen arno, gan gynnwys gwneud y mwyaf o'i incwm i'w alluogi i ariannu'r cymorth hwn yn uniongyrchol neu drwy chwilio am atebion cymunedol amgen.
  • Er mai ein hegwyddor fydd cefnogi unigolyn i aros gartref, bydd hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn nifer o ffactorau gan gynnwys:
    • cynaliadwyedd unrhyw becyn gofal cartref a'r gallu i ddarparu gofal yn ddiogel yn y cartref;
    • cymhlethdod ei anghenion;
    • yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar ofalwyr di-dâl a'r;
    • cymorth ariannol sydd ei angen i gynnal lefel ddiogel o ofal.
  • Efallai na fydd bob amser yn bosibl cefnogi unigolyn i aros gartref.
  • Pan fydd cost cefnogi unigolyn i aros gartref yn fwy na'n cyfradd cartref gofal gyhoeddedig, ystyrir a yw hyn yn gynaliadwy, ac efallai y byddwn yn gweithio gyda'r unigolyn i nodi ateb amgen.
  • Lle nad oes modd cefnogi unigolyn gartref, byddwn yn anelu at gynnig dewis o lety a fydd yn bodloni ei anghenion asesedig cymwys. Gall hyn fod trwy dai cymorth neu gynllun gofal ychwanegol a gomisiynwyd gennym ni neu mewn lleoliad mewn cartref gofal sydd ar ein Rhestr Darparwyr Cartref Gofal Cymeradwy.
  • Byddwn dim ond yn ystyried lleoliad mewn cartref gofal lle mae angen y lefel hon o ofal fel y'i hasesir gan y tîm gwaith cymdeithasol.

 

Lleoliadau cartref gofal

  • Mae ein Darparwyr Cartref Gofal cymeradwy wedi cael gwiriadau sicrwydd ansawdd ac maent wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gan sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau a'u bod yn bodloni'r safonau gofynnol.
  • Byddwn yn cyhoeddi cyfraddau cartref gofal bob blwyddyn, gan nodi'r gyfradd y byddwn yn ei thalu am wahanol lefelau o ddarpariaeth gofal, gan gynnwys gofal preswyl, nyrsio a dementia. Y cyfraddau hyn fydd yr uchafswm yr ydym yn disgwyl ei dalu am y lefel hon o ofal, oni bai bod gan yr unigolyn anghenion gofal a chymorth eithriadol, fel y'u hasesir gan y tîm gwaith cymdeithasol. Bydd ein cyfraddau cartref gofal ar gael ar ein gwefan.
  • Bydd manylion cartrefi ar ein Rhestr Darparwyr Cymeradwy sydd â lleoedd gwag ac sy'n cynnig gwasanaethau o fewn ein cyfraddau cyhoeddedig ar gael. Byddwn yn gweithio gydag unigolyn a'i deulu i'w helpu i ddewis eu hoff gartref.
  • Os nad oes unrhyw leoedd gwag ar ein Rhestr Darparwyr Cymeradwy o fewn ein cyfradd gyhoeddedig, byddwn yn anelu at gynnig dewis o gartrefi gofal gyda chyfraddau sydd mor agos â phosibl at ein cyfradd gyhoeddedig.
  • Pan fydd gan unigolyn angen asesedig cymwys am leoliad cartref gofal ac rydym wedi cynnig dewis o gartrefi gofal iddo o'n Rhestr Darparwyr Cymeradwy, ond ei fod yn dymuno symud i gartref gwahanol, yr uchafswm cymorth ariannol a gaiff ei ddarparu fydd lefel ein cyfraddau cyhoeddedig. Bydd angen i'r unigolyn neu drydydd parti, fel ei deulu, dalu unrhyw gost ychwanegol.
  • Os yw'r unigolyn yn dymuno symud i gartref gofal mewn ardal arall o'r DU, ond y tu allan i Gaerdydd, byddwn yn talu hyd at y gyfradd cartref gofal a bennir gan yr Awdurdod Lleol hwnnw. Bydd angen i'r unigolyn neu drydydd parti dalu unrhyw gostau ychwanegol.

 

Codi tâl am ofal a chymorth

  • Bydd angen i lawer o bobl sy'n derbyn gofal, naill ai gartref neu mewn lleoliad cartref gofal, gyfrannu at gost eu gofal. Bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal i sicrhau nad oes gofyn i unrhyw un dalu mwy nag y gall ei fforddio, yn unol â'r rheoliadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd cost lawn y gofal a gaiff ei ddarparu yn cael ei hadennill lle mae wedi cael ei asesu bod hyn yn fforddiadwy i'r unigolyn.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein trefniadau codi tâl yn gyson ac yn deg.
  • Mae gofal cartref yn ddarostyngedig i uchafswm tâl wythnosol a bennir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn sicrhau bod ein taliadau yn unol â'r uchafswm tâl hwn.
  • Pan fydd cost y ddarpariaeth gofal a ddewiswyd yn uwch na'n cyfraddau cyhoeddedig a bod unigolyn neu drydydd parti yn talu tuag at y gost ychwanegol, byddwn yn ceisio tystiolaeth y bydd y trefniant yn ariannol gynaliadwy am dair blynedd o leiaf.
  • Pan fo unigolyn wedi dewis hunan-ariannu lle mewn cartref gofal ac nad yw ei arian yn ddigonol i'w gefnogi i aros yn y cartref mwyach, byddwn yn cynnal asesiad llawn o'i anghenion yn gyntaf, yna:
    • Os nad oes ganddo angen asesedig cymwys am leoliad cartref gofal, byddwn yn ei gefnogi i symud i ddarpariaeth amgen; neu
    • Os oes angen iddo fod mewn cartref gofal ond bod cost y lleoliad yn fwy na'n cyfradd gyhoeddedig, byddwn yn ystyried a oes amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol ariannu'r lleoliad neu a ddylid cefnogi'r unigolyn i symud i lety amgen sy'n bodloni ei anghenion.
    • Bydd unrhyw benderfyniad i newid lleoliad cartref gofal yn cael ei wneud dim ond ar ôl asesiad llawn gan y tîm gwaith cymdeithasol ac ystyried yr holl ffactorau gan gynnwys risg unrhyw symudiad.
    • Byddwn yn ceisio sicrhau bod cyngor da ar gael i helpu unigolion i wneud penderfyniadau am eu gofal ac i atal yr angen i newid lleoliad cartref gofal.

 

Adennill dyledion

  • Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gofal yn parhau'n gynaliadwy, mae'n bwysig bod taliadau gofal yn cael eu talu. Byddwn yn gweithredu dull teg a chyson o adennill dyledion.
  • Byddwn yn gweithio gydag unigolion i archwilio'r rhesymau dros unrhyw beidio â thalu, gan sicrhau bod trefniant talu addas ar waith.
  • Byddwn yn mynd ar drywydd pob opsiwn amgen rhesymol cyn defnyddio pwerau adennill dyledion ffurfiol fel achos llys.