Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Person enwebedig

Mae 'person enwebedig' yn wahanol i rywun a benodir yn 'berson addas'. Mae person addas yn rheoli ac yn gweithredu'r taliad uniongyrchol ar eich rhan os nad oes gennych y galluedd i wneud penderfyniadau eich hun.

Os ydych am dderbyn y cynnig o daliadau uniongyrchol, ond nad ydych yn siŵr a allwch ei reoli ar eich pen eich hun, mae cymorth ar gael i chi.

Yn gyntaf, mae'n bwysig nodi ein bod yn darparu Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol trwy Ganolfan Byw'n Annibynnol (CBA) Dewis i'ch helpu i reoli nifer o agweddau ar eich taliadau uniongyrchol, gan gynnwys recriwtio, cyflogres, cyngor cyffredinol ac ati. Bydd CBA Dewis yn dyrannu gweithiwr achos i chi a fydd yno i'ch helpu i reoli eich taliadau uniongyrchol.

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo bod angen ychydig mwy o help arnoch ac felly gallwch enwebu rhywun rydych yn ymddiried ynddo i'ch cynorthwyo i reoli agweddau ar eich taliadau uniongyrchol fel darllen llythyrau, siarad ar eich rhan ac ati. Rydym yn galw'r person hwn yn 'Berson Enwebedig'.

Byddwch yn dal i fod yn gwbl gyfrifol am eich taliadau uniongyrchol eich hun gyda'r cymorth hwn gan nad oes gan berson enwebedig unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am y taliadau uniongyrchol.

Byddai angen i ni fod yn fodlon bod unrhyw un rydych yn ei enwebu yn briodol a'i fod hefyd yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch, a'i fod yn barod i wneud hynny. Byddai eich person enwebedig hefyd yn gallu cael mynediad at y cymorth a roddir gan CBA Dewis.

Bydd yn rhaid i chi a'ch person enwebedig lofnodi'r Cytundeb Taliadau Uniongyrchol.

Dylech hefyd nodi na all eich person enwebedig gael ei gyflogi gennych fel cynorthwy-ydd personol gyda'ch taliadau uniongyrchol. Mae hyn oherwydd y byddai gwrthdaro buddiannau, felly dylech ystyried hyn os oeddech yn ystyried cyflogi'r person hwn fel eich cynorthwy-ydd personol, gan na all ymgymryd â'r ddwy rôl.

Os hoffech gael person enwebedig i'ch cynorthwyo i reoli eich Taliadau Uniongyrchol rhowch wybod i'ch gweithiwr cymdeithasol.