Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyflogi aelod o'r teulu

Efallai eich bod yn ystyried cyflogi cynorthwy-ydd personol gyda thaliadau uniongyrchol ac yn meddwl tybed a allwch gyflogi aelod o'r teulu ar gyfer hyn.

Mae sawl peth y mae'n rhaid eu hystyried wrth feddwl am gyflogi aelod o'r teulu gyda thaliad uniongyrchol ac maent yn wahanol yn dibynnu ar a yw'n byw gyda chi ai peidio.

Rydym am sicrhau bod y sawl rydych yn ei gyflogi yn ddewis iawn i fodloni eich anghenion. Wrth drafod taliadau uniongyrchol gyda'ch gweithiwr cymdeithasol dylech roi gwybod iddo os ydych yn ystyried cyflogi cynorthwy-ydd personol ac a hoffech i aelod o'r teulu gael ei ystyried.

I helpu gyda'r broses hon, rydym wedi amlinellu isod rai pethau i'w hystyried. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i'r aelod o'r teulu ddarllen y canllaw hwn gan y bydd y penderfyniad yn effeithio ar y ddau ohonoch, felly mae'n ffordd dda o ddechrau sgwrs gydag ef.

Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar a yw'r aelod o'r teulu'n byw gyda chi ai peidio.


Os ydych yn byw yn yr un cartref â'r aelod o'r teulu

Byddwn dim ond yn ystyried cytuno i ddefnyddio taliad uniongyrchol i dalu aelod o'r teulu fel cynorthwy-ydd personol os oes amgylchiadau eithriadol a fyddai'n golygu y byddai dod o hyd i gymorth priodol yn achosi oedi neu beidio â bodloni eich holl anghenion, gan gynnwys:

  • Mae angen cynorthwy-ydd personol sy'n byw gyda chi arnoch, ac nid oes digon o ystafelloedd gwely yn y tŷ i fodloni'r angen hwnnw, hyd yn oed gydag addasiadau rhesymol i'ch cartref.
  • Mae gennych anghenion cyfathrebu arbennig y gallant gael eu bodloni dim ond gan aelod o'r teulu.
  • Dim ond aelod o'r teulu a all fodloni eich anghenion diwylliannol neu grefyddol.


Os nad yw'r aelod o'r teulu'n byw gyda chi

Mae llai o gyfyngiadau dan y gyfraith os ydych yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu nad yw'n byw gyda chi. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn hyderus o hyd bod hyn er eich budd gorau ac mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o gyflawni eich canlyniadau.

Rhaid i chi, yr aelod o'r teulu rydych am ei gyflogi, a'ch gweithiwr cymdeithasol gytuno mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o fodloni eich anghenion.

Perthynas cyflogwr ac gweithiwr

Efallai bod cyflogi aelod o'r teulu'n teimlo fel yr opsiwn hawsaf a gorau i chi. Wedi'r cyfan, mae'n eich adnabod chi a'ch anghenion yn well nag y bydd unrhyw ddieithryn; gallwch ymddiried ynddo; gallwch ei alw ar fyr rybudd. Mae pob un o'r rhain yn ddilys, ond mae cyflogi unrhyw un, ac yn enwedig aelod o'r teulu, yn ddewis na ddylid ei wneud ar chwarae bach.

Bydd angen i chi ei 'reoli' a sicrhau ei fod yn dilyn ei delerau contract. Efallai y bydd yn teimlo ei fod yn gallu gweithio i'w amserlen ei hun - ond nid yw'n gallu. Efallai y bydd yn tybio gwybod yr hyn rydych ei eisiau, yn hytrach na gwirio gyda chi. Byddwch yn gyfrifol am ei iechyd a'i ddiogelwch wrth 'weithio' i chi.

 

Cyllid

Chi fydd yn gyfrifol am dalu'r aelod o'r teulu a allai fod yn dibynnu ar y cyflog hwnnw ar gyfer ei fywoliaeth. Gall amgylchiadau pobl newid. Efallai y bydd eich iechyd yn gwella, ac efallai y bydd angen llai o gymorth arnoch, neu fath gwahanol o gymorth (er enghraifft gofal preswyl).

Gall polisi'r Llywodraeth newid hefyd. Yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ni ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, a allai newid faint o arian a gewch a sut y gallwch ei wario. Gyda'r holl amgylchiadau hyn, gallai'r newid effeithio ar faint o arian y byddech yn ei dderbyn gennym a nifer yr oriau y gallech fforddio talu'r aelod o'r teulu wedyn.

Mae hyn yn anodd dan unrhyw amgylchiadau, ond yn enwedig felly os ydych yn aelod o'r teulu ac yn gwybod llawer am y person hwn a faint mae'n dibynnu ar y swydd a'r arian mae'n ei gynnig.

 

Gosod ffiniau

Mae'n debygol eich bod yn ystyried cyflogi rhywun sydd eisoes yn rhoi rhywfaint o gymorth anffurfiol i chi. Dylech ystyried sut y bydd hyn yn edrych yn y dyfodol. A fydd yn parhau i roi cymorth anffurfiol i chi a sut y byddwch yn gwahanu rhwng hyn â bywyd y tu allan i'r gwaith a bywyd personol.

Os ydych yn treulio llawer o amser gyda'ch gilydd, gall y ffiniau fynd yn aneglur yn hawdd. Efallai y bydd hyn yn rhoi straen ar eich perthynas. Gall gweithiwr yn y sefyllfa hon fynd yn flinedig iawn yn hawdd gan nad yw'n hawdd ymlacio.

Bydd angen i chi hefyd gadw llygad am ofynion 'iechyd a diogelwch'. Fel ei gyflogwr, byddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau ei fod yn cael digon o wyliau a'i hawl i wyliau. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gweithio'n ddiogel, a bod unrhyw risgiau'n cael eu rheoli'n ofalus. Gallai hyn olygu bod yn rhaid i chi wneud pethau'n wahanol rhyngoch (e.e. efallai y bydd angen iddo gwblhau hyfforddiant i ddefnyddio offer symud a thrin, tra efallai bydd yr aelod o'r teulu dim ond yn eich 'codi').

 

Beth nesaf?

Ar ôl i chi eistedd gyda'r aelod o'r teulu a thrafod pethau'n fanwl ac eisiau bwrw ymlaen, yna bydd angen i chi siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol. Cofiwch, os yw'r aelod o'r teulu'n byw gyda chi, mae'n annhebygol y cytunir ar hyn, ond gall eich gweithiwr cymdeithasol esbonio hyn i chi yn fanylach a thrafod unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar ein penderfyniad.

Bydd hefyd yn mynd trwy ffurflen 'Cyflogi Aelod o'r Teulu' gyda chi. Mae'r ffurflen hon yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau fel y gall y gweithiwr cymdeithasol ystyried ai dyma'r peth iawn i chi.

Ar ôl ystyried popeth, os nad ydym yn credu mai cyflogi aelod o'r teulu, p'un a yw'n byw gyda chi ai peidio, yw'r peth gorau i chi, neu na fyddai'n bosibl bodloni eich anghenion, ni fyddwn yn cytuno i'r taliad uniongyrchol gael ei ddefnyddio fel hyn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod hyn gyda chi ac yn esbonio'r rhesymau ac mae gennych yr hawl bob amser i apelio yn erbyn ein penderfyniad.

 

Mwy o wybodaeth

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer arweiniad yn unig ac nid yw'n nodi unrhyw feini prawf penodol y mae'n rhaid eu hystyried. Os hoffech drafod y posibilrwydd o gyflogi aelod o'r teulu drwy daliadau uniongyrchol, dylech gysylltu â'ch gweithiwr cymdeithasol i drefnu cyfarfod ag ef.