Os ydych yn byw mewn ardal parcio i breswylwyr, gallwch brynu oriau parcio i ymwelwyr trwy MiPermit.
Wedi i chi brynu oriau, bydd angen i chi gofrestru cerbyd eich ymwelydd pan fydd yn parcio.
Gallwch brynu hyd at 6 swp o 850 awr. Bydd un swp o 850 awr yn costio £35.
Byddwch yn gallu prynu uchafswm o 5,100 awr y flwyddyn.
Byddwch chi'n colli unrhyw oriau heb eu defnyddio ar eich cyfrif 1 flwyddyn ar ôl ichi eu prynu. Os ydych wedi defnyddio'r nifer uchaf o oriau, ni fyddwch yn gallu prynu mwy nes bod blwyddyn wedi mynd heibio ers eich pryniant cyntaf.
Ni fydd angen i'ch ymwelydd arddangos unrhyw beth yn ei gerbyd.
Creu Cyfrif MiPermit
I wneud cais am drwydded parcio, bydd angen i chi greu cyfrif ar system MiPermit.
I greu cyfrif, bydd angen i chi roi'r canlynol:
- eich enw llawn,
- rhif eich tŷ a'ch cod post,
- eich rhif treth gyngor (mae angen hyn arnom fel prawf eich bod yn byw yn yr eiddo).
Os na allwch sefydlu cyfrif ar-lein, gallwch ffonio MiPermit ar 0333 123 6006 i gael help.
Pan fydd gennych gyfrif gyda MiPermit, gallwch brynu a rheoli eich trwyddedau ar y wefan neu drwy App MiPermit.
Defnyddio eich oriau parcio i ymwelwyr
Gallwch ddyrannu oriau hyd at 2 wythnos ymlaen llaw a gallwch ddefnyddio hyd at 100 awr ar y tro.
I ddefnyddio eich oriau parcio i ymwelwyr, mewngofnodwch i MiPermit neu defnyddiwch app MiPermit a chliciwch ar 'Rheoli Trwyddedau Digidol'.
Rhowch rif cofrestru cerbyd eich ymwelydd, dyddiad ac amser dechrau ar gyfer y drwydded a hyd yr ymweliad.
Dros y ffôn neu neges destun
Gallwch ddefnyddio eich oriau i ymwelwyr drwy ffonio MiPermit ar 0333 123 6006.
Os oes gan eich cyfrif MiPermit rif ffôn symudol ynghlwm wrtho, gallwch anfon neges destun i 61600 i ddefnyddio neu ymestyn oriau parcio i ymwelwyr.
Anfonwch neges destun gyda'r gair 'YMWELYDD' ynghyd â rhif cofrestru cerbyd eich ymwelydd a hyd yr arhosiad.
Er enghraifft:
YMWELYDD A123BCD 2 awr
I ymestyn trwydded ymwelwyr, anfonwch neges destun gyda'r gair 'YMESTYN' ynghyd â faint mewn oriau yr hoffech ymestyn y drwydded.
Er enghraifft:
YMESTYN 2 awr
Codir tâl am negeseuon testun i 61600 ar gyfradd safonol eich darparwr rhwydwaith.
