Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynllun cyhoeddi

Mae dyletswydd ar bob cyngor o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi.

Mae rhywfaint o'r wybodaeth ar ein gwefan. Mae'r dudalen hon yn eich helpu i gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein ac mewn mannau eraill.

Mae'r cynllun cyhoeddi wedi'i rannu'n 7 dosbarth:

  1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud?
  2. Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario
  3. Beth yw ein blaenoriaethau a pha gynnydd yr ydym yn ei wneud ynglŷn â'r rhain
  4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
  5. Ein polisïau a'n gweithdrefnau
  6. Rhestrau a chofrestrau
  7. Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

 

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud?

Ewch i'n tudalen Cysylltu â ni i weld pa wasanaethau y gallwch eu cyrchu ar-lein a dod o hyd i'n manylion cyswllt.

 

Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario

I weld y dogfennau treuliau etholiad, bydd angen i chi dalu £1.50. E-bostiwch y Gwasanaethau Etholiadol yn [email protected] am fwy o wybodaeth ac i gael gwybod sut i dalu.

I weld gwariant dros £500 neu gyllid ar gyfer sefydliadau partneriaeth, cyflwynwch gais Rhyddid Gwybodaeth.

 

Beth yw ein blaenoriaethau a pha gynnydd yr ydym yn ei wneud ynglŷn â'r rhain

Cyflwynwch gais Rhyddid Gwybodaeth i weld:

  • Adroddiadau archwilio
  • Gwybodaeth ystadegol
  • Asesiadau o effaith
  • Cynlluniau ffeil

I weld arolygiadau bwyd, cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sy'n darparu'r gwasanaethau hyn ar ein rhan.

 

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Cyflwynwch gais Rhyddid Gwybodaeth i weld:

  • Canllawiau cyfathrebu mewnol
  • Meini prawf a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • Cyfarwyddiadau mewnol
  • Llawlyfrau
  • Canllawiau

 

Ein polisïau a'n gweithdrefnau

Cyflwynwch gais Rhyddid Gwybodaeth i weld:

  • Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu ein gwasanaethau
  • Polisïau a gweithdrefnau ynghylch recriwtio a chyflogi staff
  • Polisi iechyd a diogelwch
  • Rheoli cofnodion
  • Data personol a mynediad i bolisïau gwybodaeth

 

Rhestrau a chofrestrau

Gallwch weld cofrestrau cyhoeddus a chofrestrau a gedwir fel cofnodion cyhoeddus ar gyfer:

Cyflwynwch gais Rhyddid Gwybodaeth i weld:

  • Cofrestr asedau
  • Cofrestrau gwybodaeth

I weld y gofrestr etholiadol, anfonwch e-bost i'r Gwasanaethau Etholiadol yn [email protected].

 

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Gallwch ddod o hyd i gyngor ac arweiniad ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar draws ein gwefan.