Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyfleoedd presennol

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwahodd tendrau pan fydd gwerth nwyddau, gwasanaeth neu waith dros £75,000. Pan fydd y gwerth dros £189,330 ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, a thros £4,733,252 ar gyfer gwaith, bydd y cyngor yn dilyn Ddeddf Caffael 2023.

Mae holl gyfleoedd tendro y cyngor i'w gweld ar ein Porth Caffael. Bydd rhaid i chi gofrestru cyn gallwch ddefnyddio'r porth.

Gellir gweld tendrau sy'n uwch na throthwy Ddeddf Caffael ar wefan Llwyfan Digidol Canolog - Dod o hyd i Wasanaeth Tendro ac ar GwerthuiGymru.

Calendr Contract a Fframwaith

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal cofrestr contractau​ (Excel doc, 72 KB) sy'n cynnwys rhestr o gontractau a fframweithiau presennol y Cyngor, yn cynnwys cytundebau fframwaith a sefydlwyd gan Tîm Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) (y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gynt).

Nod y rhestr hon o gontractau yw cynnig tryloywder a rhoi syniad o pryd y gall contractau presennol fod yn barod i'w hadnewyddu. Mae hefyd yn rhoi syniad i gyflenwyr a chontractwyr presennol a phosibl o amrywiaeth y nwyddau, y gwasanaethau a'r gwaith y mae'r Cyngor yn eu prynu.

Bydd y wybodaeth am bob contract yn cynnwys:

  • Categorïau Contract - Pan fo cyflenwyr yn cofrestru ar Proactis gallant ddewis categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau/gwasanaethau/gwaith y maen nhw'n eu cyflenwi er mwyn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd sy'n codi.
  • Diwrnod dirwyn i ben - y dyddiad y daw'r contract neu'r fframwaith i ben.
  • Estyniad - yn dangos a oes cyfle i ymestyn hyd y contract neu fframwaith presennol. Bydd hyn yn adlewyrchu'r hyn a ysgrifennwyd yn yr amodau pan grëwyd y contract.
  • Gwerthwyr - rhestr o werthwyr llwyddiannus ar gyfer pob contract neu fframwaith. Mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr, yn enwedig Busnesau Bach a Chanolig neu Ficro Fusnesau a sefydliadau'r Trydydd Sector, i gysylltu â gwerthwyr llwyddiannus i weld a oes cyfleoedd is-gontractio/ ail neu drydedd haen ar gael.

Diben y rhestr yw dangos contractau a fframweithiau cyfredol y Cyngor. Nid yw hyn yn gyfystyr â gwarant y bydd yr un nwyddau, gwasanaethau neu weithiau yn cael eu rhoi ar dendr eto ar ôl i'r contract ddirwyn i ben.

Os bydd contractau o'r fath yn cael eu rhoi ar dendr mae'n debygol y bydd y cyfleoedd yn cael eu hysbysebu rhwng 12 a 6 mis cyn y dyddiad dirwyn i ben.

Dylai darpar gyflenwyr gysylltu â'r Cyngor hyd at 6 mis cyn diwedd contract os oes ganddynt ddiddordeb mewn clywed am gyfleoedd posibl a allai godi yn y dyfodol. Mae'r calendr hwn wedi ei gynllunio i helpu cyflenwyr i gynllunio o flaen llaw ac achub ar bob cyfle.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltu â ni

Cysylltu â ni