Nod ein Canllaw Gwerthu i'r Cyngor (PDF, 1 MB) yw helpu darparwyr a chontractwyr posibl i ddeall sut mae Cyngor Dinas Caerdydd yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar hyn o bryd ac i'w helpu i gael gwybod mwy am gyfleoedd a pharatoi am waith.
Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Safonau'r Gymraeg
Mae angen i sefydliadau sy'n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i Gyngor Caerdydd gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (a gyhoeddwyd i'r Cyngor) lle maent yn berthnasol i'r gwasanaeth/contract penodol hwnnw.
Mae'r Canllaw Safonau'r Gymraeg i Drydydd Partion (PDF, 1 MB) atodedig yn crynhoi gofynion y safonau gyda'r nod o helpu sefydliadau i gydymffurfio â'r gofynion.
Polisi Chwythu'r Chwiban
Mae'r Cyngor yn ymrwymo wrth y safonau didwylledd, cywirdeb ac atebolrwydd uchaf posibl. Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw, rydym yn disgwyl i weithwyr a phobl eraill rydym yn ymdrin â nhw sydd â phryderon sylweddol am unrhyw agwedd ar waith y Cyngor leisio'r pryderon hynny.
Mae staff contractwyr wedi'u cynnwys ym Mholisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor a dylent roi gwybod i'r Cyngor am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad staff y Cyngor neu faterion y mae'r Cyngor yn atebol amdanynt.
Ymchwilir yn llawn, yn deg ac yn gyfrinachol i bob pryder. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at bolisi'r Cyngor.
Sut i gofrestru
I ddod yn gyflenwr i Gyngor Caerdydd (Ardal), bydd rhaid i chi gofrestru i gael eich cynnwys yng ngyfeirlyfr cyflenwyr corfforaethol y cyngor.
Byddem yn argymell y dylai cyflenwyr hefyd gofrestru gyda phorth caffael sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i gyflenwyr a phrynwyrGwerthwchiGymru.
Bydd cofrestru ar-lein yn eich galluogi i ddiweddaru eich proffil yn ôl y galw, bydd yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd tendro Cyngor Caerdydd a gweld yr holl fanylion, yn ogystal â chyfleoedd yn sefydliadau eraill a bydd yn ein galluogi ni i gysylltu â chi yn fwy effeithlon mewn cysylltiad â chyfleoedd tendro presennol ac yn y dyfodol.
Cyflog Byw
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyflogwr Cyflog Byw.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltu â ni.
