Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Datganiad cyfrifon blynyddol

Rydym yn llunio datganiad cyfrifon ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae hon yn ddogfen dechnegol sy'n cynnwys yr holl ddatganiadau a datgeliadau ariannol sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rhaid i'r datganiadau:

  • gael eu harchwilio'n anibynnol i benderfynu a ydynt yn rhoi darlun cywir a theg o'n sefyllfa ariannol. Caiff unrhyw bryderon eu crynhoi mewn adroddiad archwilio
  • darparu atebolrwydd i breswylwyr, trethdalwyr a thalwyr rhenti, cynghorwyr etholedig, arianwyr, gweithwyr a rhanddeiliaid eraill
  • ein galluogi i gymharu a meincnodi gyda sefydliadau eraill
  • ein galluogi i gymharu ar draws blynyddoedd ariannol
  • bod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae hyn yn galluogi rhanddeiliaid i ofyn cwestiynau i ni a'n harchwiliwr.

Rydym hefyd yn paratoi datganiad cyfrifon ar gyfer sefydliadau eraill lle cawsom ein dynodi'n awdurdod arweiniol neu lle mae'n rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Yn ystod y flwyddyn ariannol, byddwn yn darparu hysbysiadau ynghylch pryd y gallai'r datganiad cyfrifon fod ar gael i'w weld. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau am ein gwaith i baratoi, archwilio a chyhoeddi ein cyfrifon.

Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Bydd fersiynau terfynol o'r dogfennau hyn ar gael yn y Gymraeg ar ôl yr archwiliad.

Os hoffech weld dogfennau o flynyddoedd cyn 2021, cysylltwch â ni.

Hysbysiadau

 

Cyngor Caerdydd yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd

 

Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

 

Chyd-bwyllgorau

Cyngor Caerdydd yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd ac Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru (CCDDdC)

Mae'r cyfrifon a'r hysbysiadau cysylltiedig ar gael ar wefan CCDDdC - Prifddinas-Ranbarth Caerdydd .

Archifau Morgannwg

Prosiect Gwyrdd

Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd

Cymeradwyir y ffurflen hon ochr yn ochr â chyfrifon y Cyngor.

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Ein safonau adrodd

Mae'r datganiadau ariannol yn dilyn y gofynion a bennir gan y Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon. Cyhoeddir y Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys y:

Rhagair

Mae hwn yn rhoi trosolwg o gyfrifon ac yn tynnu sylw at faterion ariannol sylweddol.

Datganiad Symudiad mewn Cronfeydd Wrth Gefn (DSCWG)

Mae hwn yn dangos y symudiad rhwng ein cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ac na ellir eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.

Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (DIGC)

Mae hwn yn dangos cost ein gweithgareddau yn unol ag arferion cyfrifyddu. Dangosir sefyllfa'r dreth gyngor (balans cyffredinol y gronfa) yn y DSCWG.

Mantolen

Mae hon yn dangos cyfanswm ein hasedau, ein rhwymedigaethau a'n gwerth net.

Datganiad Llif Arian Parod

Mae hwn yn esbonio symudiad arian parod, cywerthoedd arian parod, a gorddrafft banc yn ystod y flwyddyn.

Cyfrif Refeniw Tai

Mae hwn yn gyfrif statudol ar wahân sy'n dangos cyfanswm yr incwm a'r gwariant.

Nodiadau datgelu

Mae'r nodiadau'n ymwneud ag ystod o eitemau, gan gynnwys polisïau cyfrifyddu, taliadau, pensiynau, offerynnau ariannol fel buddsoddiadau a benthyca, eiddo, buddiannau mewn is-gwmnïau, ac eiddo, offer a chyfarpar.

Archwilio Cymru

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifeg neu Swyddog Cleient yw cynnal gwefan Cyngor Dinas Caerdydd; nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac o ganlyniad nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf ar y wefan.

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni am ein datganiadau blynyddol neu ein safonau adrodd blynyddol, cysylltwch â ni.

E-bost: [email protected]