Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyllid y blynyddoedd cynnar

Mae gan blant hawl i le rhan amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.

Gallwch chwilio am eich meithrinfa agosaf a chofrestru'ch plentyn am le ar ein tudalen derbyn i ysgol feithrin.

Os nad oes llefydd ar gael mewn ysgol feithrin neu feithrinfa leol o fewn dwy filltir i le mae'ch plentyn yn byw, gallwch wneud cais am gyllid y blynyddoedd cynnar.

Beth mae'n ei dalu amdano?

Bydd yn talu am gost lle meithrin rhan amser yn unrhyw un darparwyr gofal plant y mae Cyngor Caerdydd yn eu cydnabod:

Ysgol Feithrin/Grŵp chwaraeCyfeiriadRhif ffôn
Gofal Plant Cwtch ChildcareYsgol Gynradd Coed y Gof, Pentre-baen07954646097
Cylch Meithrin Y ParcCapel Salem, Market Road, Treganna, CF5 1QE07794065522
Cylch Meithrin Yr Eglwys NewyddNeuadd y Sgowtiaid, Penlline Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 2AD07474651141
Miri Mawr19 Heol Gabalfa, Ystum Taf, CF14 2JH02920 560109
Si-Lw-Li (Whitchurch)24 Park Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BQ02920 626720
St Aubins (Welsh Unit)503A Cowbridge Road, Treganna, CF5 1BB02920 222227
Cylch Meithrin RhiwbeinaFestri, Capel Bethal, Maes Y Deri, Rhiwbeina CF14 6JJ02920 521 270

Sut i wneud cais am arian

I gael ffurflen gais hwyr cysylltwch â, neu ffoniwch:


Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi?

Rhaid bod y plant yn byw yng Nghaerdydd, a bydd angen i chi gyflwyno tystysgrif geni'ch plentyn. Efallai bydd angen i chi hefyd ddangos datganiad treth gyngor i ni, a bil cyfleustodau diweddar, fel tystiolaeth o'ch cyfeiriad.

Ar ôl i ni gytuno rhoi'r arian, byddwn yn talu'r ysgol feithrin neu'r feithrinfa y mae eich plant yn mynd iddi'n uniongyrchol.

Pa gymorth arall sydd ar gael?

Os oes gennych blentyn hyd at 3 blynedd 11 mis oed a'ch bod yn byw yng Nghaerdydd, efallai y gallech gael lle gofal plant rhan amser am ddim drwy raglen Dechrau'n Deg. Ewch i derbyn i ysgol feithrin a nodwch eich cod post i weld a allech fanteisio arno.

Cysylltu â ni