Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynnig gofal plant Cymru

Logo Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu i rieni cymwys plant 3 i 4 oed.

Mwy o wybodaeth am Gynnig Gofal Plant Cymru.

Ynglŷn â Chynnig Gofal Plant Cymru

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cynnig 30 awr cyfunol o ofal plant a Darpariaeth Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r 48 wythnos yn cynnwys:

  • 39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol, a
  • 9 wythnos o ofal plant dros wyliau'r ysgol.

Mae 4 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol nad yw'r Cynnig Gofal Plant yn eu cwmpasu, felly bydd angen i chi dalu am y rhain.

39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol
ProvisionAwr yr wythnos
Darpariaeth ddysgu sylfaen (addysg gynnar)12.5 awr
Cynnig gofal plant17.5 awr
Cyfanswm30 awr

 

9 wythnos o ddarpariaeth 'wyliau' y tu allan i dymhorau ysgol
Cynnig gofal plant30 awr
ProvisionAwr yr wythnos

 

Nid oes angen i chi ddefnyddio lle addysg gynnar mewn dosbarth meithrin i ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant. P'un a ydych yn dewis defnyddio'r 12.5 awr o addysg gynnar a ddaw gyda'r Cynnig ai peidio, bydd eich cyllid gofal plant yn cael ei gapio ar uchafswm o:

  • 17.5 awr yn ystod y tymor, neu
  • 30 awr yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae arian y Cynnig Gofal Plant yn talu'r gofal plant sy'n cael ei ddarparu gan y lleoliad. Nid yw'n cynnwys bwyd, cludiant i'r dosbarth meithrin neu oddi yno, na gweithgareddau oddi ar y safle y codir tâl ychwanegol amdanynt. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dalu am y rhain.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch pa gostau ychwanegol y gallai fod rhaid i chi eu talu y tu allan i arian y Cynnig, siaradwch â'ch darparwr gofal plant.

Dysgwch sut i wneud cais am le addysg gynnar.

Os hoffech fanteisio ar y cynllun Gofal Plant Di-dreth i helpu gyda'r costau ychwanegol hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar wefan GOV.UK. Dysgwch fwy am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth.

 

Cymhwysedd

Rydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant os ydych yn byw yng Nghymru, bod gennych blentyn 3 neu 4 oed, a'ch bod naill ai:

Yn rhiant sy'n gweithio sy'n:

  • gyflogedig neu hunangyflogedig. Mae'n rhaid i chi ennill swm sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos o leiaf ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a rhaid i'ch incwm blynyddol fod yn ddim mwy na £100,000 gros y flwyddyn.

Yn rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sydd:

  • wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch, israddedig neu ôl-radd sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau dysgu o bell, neu
  • wedi cofrestru ar gwrs mewn lleoliad addysg bellach neu goleg chweched dosbarth yn yr ysgol, sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.

Rhaid i'r cwrs gael ei redeg gan goleg neu brifysgol a ariennir yn gyhoeddus i fod yn gymwys.

Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni'r meini prawf.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, mae arian ychwanegol ar gael. Cysylltwch â ni os gall fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.

Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol. Gallwch wiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.

 

Dewis darparwr gofal plant

Gallwch ddewis unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi'i gofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cewch weld a yw eich darparwr dewisol wedi cofrestru ar hyn o bryd drwy gysylltu â'r tîm Cynnig Gofal Plant ar 03000 628 628 neu wirio Dewis Cymru.

Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant.

 

Pryd i wneud cais

Bydd y ceisiadau'n agor 75 diwrnod cyn dechrau'r tymor ar y dyddiadau hyn.

Pryd i wneud cais
Dyddiad geni'r plentynCymwys oCymwys iCeisiadau ar agor
1 Medi 2021 i 31 Mawrth 2022Cymeradwyo cais31 Awst 2026Ar agor
1 Ebrill 2022 i 31 Awst 2022Cymeradwyo cais31 Awst 2026Ar agor
1 Medi 2022 i 31 Rhagfyr 20225 Ionawr 202631 Awst 2027Ar agor
1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 202313 Ebrill 202631 Awst 202729 Ionawr 2026
1 Ebrill 2023 i 31 Awst 20231 Medi 202631 Awst 202718 Mehefin 2026

 

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd eich arian yn dechrau ar ôl i'ch darparwr dderbyn y cytundeb gofal plant rydych wedi'i sefydlu.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, ond ni allwn ôl-ddyddio unrhyw gyllid ar gyfer ceisiadau sydd wedi'u cymeradwyo ar ôl dechrau'r tymor.

 

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar wefan Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae'r cais hwn ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn unig. Rhaid i chi fynd i Dderbyniadau Meithrin i wneud cais am addysg gynnar.

 

Beth i'w wneud os yw eich amgylchiadau wedi newid

Byddwn yn cynnal gwiriadau cymhwysedd bob tymor. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a'r lleoliad gofal plant os yw eich amgylchiadau wedi newid.

Os na fyddwch yn ymateb pan ofynnir i chi gadarnhau eich bod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, neu os byddwch yn anghymwys, byddwch yn dechrau cyfnod esemptio dros dro am hyd at 8 wythnos.

Pan fyddwch yn cychwyn cyfnod eithrio dros dro, byddwch yn cael e-bost yn nodi'r dyddiad y daw eich arian i ben. Bydd dangosfwrdd eich cyfrif Cynnig Gofal Plant hefyd yn dangos hysbysiad.

Byddwch yn parhau i dderbyn arian yn ystod y cyfnod esemptio dros dro. Mae hyn yn rhoi amser i chi ailgyflwyno tystiolaeth o'ch cymhwysedd neu ddarparu tystiolaeth newydd os oes angen.

Byddwch yn parhau i dderbyn arian yn ystod y cyfnod esemptio dros dro. Mae hyn yn rhoi amser i chi ailgyflwyno tystiolaeth o'ch cymhwysedd neu ddarparu tystiolaeth newydd os oes angen.

 

Cysylltwch â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech drafod eich cais, yna cysylltwch â ni.

Ffôn: 030 0062 8628

Ebost: [email protected]


Dewch o hyd i ni ar Facebook.
Dewch o hyd i ni ar Instagram.