Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Chwyn

Gall chwyn effeithio ar ymddangosiad cyffredinol ein dinas yn ogystal ag achosi difrod i arwynebau ac adeiladau, a gall rwystro draeniau.

Ni sy'n gyfrifol am reolaeth chwyn ar dir cyhoeddus, sy'n cynnwys:

  • ffyrdd,
  • palmentydd,
  • cyrbau,
  • gylïau,
  • llwybrau cerdded,
  • parciau, a
  • mynwentydd.

Nid ydym yn cynnal tir sydd dan berchnogaeth breifat.

Rheoli chwyn

Rydym yn chwistrellu chwyn ym misoedd y gwanwyn a'r haf. Ar ôl i ardal gael ei chwistrellu, mae'n cymryd tua dwy i dair wythnos i chwyn farw. Mae ein timau yn dechrau yn gynnar yn y bore felly efallai na welwch chi nhw bob amser, ac mae ein rhaglen yn ddibynnol ar y tywydd, gan nad ydym yn chwistrellu pan fydd hi'n wyntog neu'n wlyb.

Mae chwyn yn cael eu chwistrellu â chwynladdwr gwenwyn isel (Glyphosate) y gellir eu defnyddio'n ddiogel heb niweidio pobl neu anifeiliaid, fodd bynnag gall chwyn ddychwelyd rhwng triniaethau. Dysgwch am ein polisi ar reoli chwyn amgylcheddol.

Rhoi gwybod am broblem gyda chwyn

Os ydych yn poeni bod problem gyda chwyn yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni.