Pan fyddwn yn dylunio parth rheoli parcio (PRhP) ac yn ymgynghori arno, rydym yn dilyn set o egwyddorion safonol.
Mae'n cymryd 1 i 2 flynedd i ni ymgynghori ar barth rheoli traffig a’i weithredu.
Egwyddorion dylunio PRhP
Byddwn yn creu dyluniad manwl ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gennym ddull gweithredu cyson, rydym fel arfer yn:
- nodi’r holl ofod ymyl y ffordd lle mae'n ddiogel i barcio fel man parcio, neu roi llinell felen lle mae'n beryglus neu'n rhwystrol,
- ceisio rhoi mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig y tu allan i eiddo preswyl, a mannau aros a thalu ac aros cyfyngedig ger siopau, busnesau ac amwynderau,
- rhannu gofod y ffordd yn fwy cyfartal rhwng mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig a mannau aros a thalu ac aros cyfyngedig os oes angen mwy o barcio arhosiad byr. Fel yn ymyl ardaloedd siopa prysur,
- ceisio cael cyn lleied o linellau melyn ac arwyddion â phosibl mewn ffyrdd tawelach fel ffyrdd pengaead drwy greu ardaloedd parcio â thrwydded,
- ceisio sicrhau cynifer o fannau parcio â phosibl ac efelychu patrymau parcio presennol,
- gwneud iawn am unrhyw fannau parcio sy’n cael eu colli ar ffyrdd cul trwy gynyddu nifer y mannau parcio sydd ar gael ym mhob rhan o’r parth rheoli parcio,
- peidio â gwneud unrhyw newidiadau i fannau parcio i bobl anabl sydd eisoes yn bodoli, a
- pheidio â rheoli parcio o flaen tramwyfeydd tai fel y gall preswylwyr barcio o flaen eu tramwyfeydd eu hunain. Os cewch broblemau gyda phobl yn parcio o flaen eich tramwyfa, gallwch
wneud cais am farc bar H.
Cyflwyno PRhP
Mae 5 cham y mae'n rhaid i ni eu cymryd wrth ddylunio a chyflwyno parth rheoli parcio newydd:
Rhaid i ni asesu'r ardal gydag arolygon parcio ac astudio'r math o gyfyngiadau parcio y gall fod eu hangen arnom.
Yna gallwn bennu ffiniau, diwrnodau gwaith ac oriau'r cynnig
Rydym yn ysgrifennu at breswylwyr a busnesau i ofyn am adborth. Rydym yn rhoi dolen i arolwg lle gallwch ddweud wrthym a ydych yn cefnogi'r cynnig a rhoi sylwadau.
Pan fyddwn yn adolygu'r holl ymatebion, byddwn yn ystyried y canlynol:
- y gyfradd ymateb,
- lefel y gefnogaeth,
- yr holl sylwadau ac awgrymiadau.
Rydym yn ystyried unrhyw adborth a roddir ond ni allwn ymateb yn unigol i unrhyw un.
Os cawn ddigon o gefnogaeth o'r ymgynghoriad anffurfiol, byddwn yn gwneud dyluniad manwl o'r PRhP. Bydd y dyluniad yn cynnwys cyfyngiadau parcio a therfynau amser.
Rydym yn ceisio gwneud parthau nad ydynt yn rhy fawr ac sydd â ffiniau clir i osgoi dryswch.
Defnyddir y dyluniad hwn yn yr ymgynghoriad ffurfiol.
Rydym yn sicrhau bod y dyluniad manwl ar gael i’r cyhoedd ei weld. Rydym yn hyrwyddo hyn yn y wasg leol, ar ein gwefan, ac ar hysbysiadau ar y stryd.
Gallwch gyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol o fewn 21 diwrnod.
Os bydd yr ymgynghoriad yn llwyddiannus, byddwn yn gosod yr arwyddion a'r llinellau i wneud y parth rheoli parcio’n orfodadwy.
Ar ôl 12 i 18 mis, rydym yn adolygu’r PRhP newydd i asesu a yw'n effeithiol ac a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau.
Rydym yn ceisio adolygu pob parth rheoli traffig sy’n bodoli bob 5