Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Marciau H Bar (Marciau diogelu mynediad)

​​​​​​​Marciau amddiffyn mynediad, sydd hefyd yn cael eu galw’n farciau bar H, yw llinellau gwyn ar y ffordd, fel arfer o flaen rhodfeydd a modurdai. 


Maent yn helpu gyrwyr i roi gwybod, os ydyn nhw’n parcio yno, gallent achosi rhwystr ac ni ddylent rwystro mynediad pobl i ardaloedd parcio oddi ar y ffordd.

Sut olwg sydd ar farciau Bar H?

Mae marciau bar H yn hawdd iawn i’w hadnabod i helpu i atal gyrwyr rhag parcio’n anghyfrifol.  

 Marciau H Bar

Sut mae gwneud cais am Farciau H Bar?

Gwneir ceisiadau marciau Bar H ar-lein​​​​​​​​​​. Bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf, ac yna dewis y ddolen ‘Bariau H Marciau Amddiffyn Mynediad’ o’r rhestr.​


Nid oes modd gwneud cais am farciau bar H dros bwyntiau mynediad a rennir oni bai bod gennych ganiatâd ysgrifenedig pawb sy’n gallu defnyddio’r pwynt mynediad hwnnw, neu os oes cyfyngiadau parcio eraill hefyd ar waith, er enghraifft llinellau melyn dwbl.


Bydd gofyn I chi ddarllen, deal a chytuno â’r canlynol cyn gwneud cais.

Cyffredinol

  • ​Marciau cynghorol i ddangos i yrwyr bod y lleoliad yn fan anaddas i barcio ynddo yw marciau sicrhau mynediad (H-Nod). Cânt eu defnyddio gan amlaf o flaen garejis a dreifiau, er y gallant fod mewn unrhyw fan lle mae’r palmant wedi ei ostwng at lefel y lôn gerbydau, yn benodol er mwyn galluogi mynediad i gerbydau dros y droedffordd.
  • Nid yw’n parcio ar farc H-Nod yn drosedd ynddo’i hun.
  • Mae’n rhaid i unrhyw H-Nod gydymffurfio â meini prawf cyfreithiol penodol felly mae’n bosibl y bydd amgylchiadau pan na ellir gosod marciau H-Nod. Asesir pob safle ar wahân ac yn erbyn safonau cyfredol y Cyngor. Ni fydd y ffaith fod marciau tebyg ar waith yn yr ardal leol yn golygu y caiff cais ei gymeradwyo’n awtomatig.
  • Mae’n rhaid gwneud cais trwy’r dull a bennir gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i addasu’r broses gais ar unrhyw adeg os oes angen.
  • Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i fwrw ymlaen â’r broses o osod y marciau cyn gynted â phosibl; fodd bynnag, ni all roi unrhyw sicrwydd o ran pryd y caiff y gwaith ei wneud oherwydd gall gymryd amser amhenodol i wneud trefniadau i baentio eich marciau.
  • Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais os nad yw’n fodlon bod yr amodau'r cais wedi eu bodloni.
  • Caiff pob cais ei ystyried ar sail ei deilyngdod, ac;
  • Yn unigol, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i amrywio’r telerau ac amodau ar unrhyw adeg.

Costau

  • ​Bydd unrhyw gais am H-Nod yn costio £179. Ni chynigir ad-daliad. Ni chodir tâl ar hyn o bryd ar ddeiliaid Bathodyn Glas.
  • Bydd angen y tâl llawn cyn y gellir cynnal unrhyw archwiliad neu cyn cychwyn ar y gwaith.
  • Os yw’r llinellau’n gwisgo neu’n pylu, gallwch ofyn i ni eu hail-baentio. Fodd bynnag, bydd hyn yn costio’n ychwanegol a chaiff y costau hynny eu pennu ar yr adeg y gofynnwch i ni wneud y gwaith. 

Ni chewch wneud cais

  • ​Os oes un o’r cyfyngiadau Parcio canlynol eisoes o flaen eich dreif neu garej (nid yw’r rhestr hon yn derfynol ac ystyrir pob cais gan ddwyn i sylw'r cyfyngiadau parcio sydd neu a fydd ar waith yn yr ardal):​
    • Llinellau melyn dwbl
    • Llinellau igam ogam
    • Safle bws
    • Mannau parcio penodol e.e. mannau parcio i ddeiliaid trwyddedau preswylwyr
  • ​Os nad yw’r palmant wedi ei ostwng at lefel y lôn gerbydau yn benodol er mwyn rhoi mynedfa i gerbydau dros y droedffordd.
  • Er mwyn creu man Parcio preifat I chi barcio. Mae’n bosibl y caiff marciau eu dileu os yw’r preswylydd neu ei ymwelwyr yn parcio arnynt yn rheolaidd.
  • Os yw’r H-Nod ar gyfer sicrhau unrhyw fynediad arall ac eithrio mynediad yr ymgeisydd.
  • Os ydych yn breswylydd eiddo Cyngor, cymdeithas dai neu’n denant. Dim ond pan rydd yr awdurdod tai perthnasol neu’r landlord gymeradwyaeth ffurfiol y gellir gosod marciau H-Nod yn yr achosion hyn. Bydd angen copi o ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor, cymdeithas dai, perchennog, neu landlord cyn y cymeradwyir y cais; neu
  • ​Os yw’r pwynt mynediad er budd nifer o eiddo. Ni ellir gosod marciau H-Nod yn yr achos hwn oni bai eich bod yn gallu cyflwyno cydsyniad ysgrifenedig gan bob un arall y mae ganddo hawl I ddefnyddio’r pwynt mynediad. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am yr holl gostau.​

Faint fydd hyn yn costio?

Ffi o £223.75 fesul marc Bar H. Does dim modd ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu’r cais. Ni fyddwn yn co​di tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo ac mae’r broses Marciau Bar H yn gyflawn, byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost gyda’r dogfennau a’r llythyr cyflwyno. Gallwch fewngofnodi ar unrhyw gam i weld statws eich cais am farc Bar H​​​​​​.

All rhywun gael dirwy am barcio ar Farc Bar H?

Gall. Er nad yw yn ei hun yn drosedd i barcio ar farc Bar H, mae’n bosibl y bydd Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy parcio) yn cael ei gyflwyno os yw’r marc bar H hefyd wedi’i leoli lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i alluogi cerbyd i gael mynediad at y droedffordd. Os ydych yn gweld cerbyd wedi’i barcio ar farc bar H lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng, gallwch adrodd amdano yn gyfrinachol.

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd