Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw rheoliadau adeiladu?

 ​​​

​​​Rheoliadau Adeiladu yw:

  • ​Gofynion gweithdrefnol y mae’n rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu cyflawni unrhyw gynnig a ddiffinnir dan y rheoliadau fel gwaith adeiladu eu bodloni. 

  • Set o ofynion swyddogaethol y mae’n rhaid i waith adeiladu wedi’i gwblhau eu bodloni er mwyn cyflawni safonau rhesymol o iechyd, diogelwch, lles a hwylustod y bobl mewn adeiladau neu o’u cwmpas. 


Diffinnir cwmpas a maint y projectau adeiladu y mae’r rheoliadau adeiladu yn berthnasol iddynt yn Rheoliad 3 y rheoliadau​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddeu hunain y gellir eu gweld yn: 

Fel arfer bydd eich pensaer/dyluniwr neu adeiladwr yn cadarnhau a oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch ond, yn y pen draw, perchennog yr adeilad neu’r person sy’n comisiynu’r gwaith sy’n gyfrifol am sicrhau y ceir cymeradwyaeth. 

Bydd timau o syrfewyr profiadol a chymwys iawn yn Adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor yn archwilio cynlluniau, archwilio safleoedd lle bo gwaith ar y gweill a’ch cynorthwyo ym mhob cam o’r prosesau gweithdrefnol ac adeiladu. 

Nodwch nad yw caniatâd cynllunio​ yr un peth â chymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu.  Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen caniatâd i wneud gwaith adeiladu h.y. Caniatâd Cynllunio, a chymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu h.y. sut bydd yr adeilad yn perfformio pan gaiff ei gwblhau. 

Fodd bynnag, ceir eithriadau, ac mae’n bosibl, ar gyfer mathau penodol o brojectau adeiladu, y bydd angen caniatâd (cynllunio) ond nid cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ac ar gyfer rhai mathau o brojectau adeiladu bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ond nid caniatâd (cynllunio). Dylech chi neu eich cynghorwyr sicrhau y ceir cyngor gan y Cyngor gan y gallai fod yn rhaid addasu neu symud unrhyw waith wedi’i wneud heb y caniatâd a/neu’r gymeradwyaeth berthnasol.  


Beth yw cost Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu?

Mae cost y broses o gymeradwyo rheoliadau adeiladu yn amrywio gan ddibynnu ar fath, natur a maint y gwaith adeiladu rydych yn cynnig ei wneud. Llywodraethir y costau gan y Rheoliadau Adeiladu (Costau Awdurdod Lleol) ac fe’u pennir gan nifer o ffactorau a ddiffinnir yn y rheoliadau hyn. 

Gellir gweld rhai o’r costau sy’n berthnasol ar ein tabl costau safonol. Nid yw’n bosibl rhestru’r holl gostau ar gyfer yr holl gyfuniadau, mathau a graddfeydd o waith adeiladu posibl. Felly, mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael trwy glicio ar unrhyw rai o’r dolenni ‘cysylltu â ni’. 


Costau ar hyn o bryd​

Annedd un llawr (fesul gosodiad dyluniad)

Cost Cynllun: £239.09
Cost archwilio: £343.04
Cyfanswm: £582.12

Cost Rhybudd Adeiladu: £582.12
Cost Unioni: £776.16


Annedd dau lawr (fesul gosodiad dyluniad)

Cost Cynllun: £311.85
Cost archwilio: £446.99
Cyfanswm: £758.84

Cost Rhybudd Adeiladu: £758.84
Cost Unioni: £919.80


Annedd tri llawr, neu fwy (fesul gosodiad dyluniad)

Cost Cynllun: £363.83
Cost archwilio: £623.70
Cyfanswm: £987.53

Cost Rhybudd Adeiladu: £987.53
Cost Unioni: £1,316.70


Ar gyfer pob annedd ychwanegol o’r un ‘math/dyluniad’ dylid ychwanegu 0.15 o bris y cynllun a 0.25 o'r pris archwilio.

Cost Ychwanegol ar gyfer gwaith hysbysadwy Rhan P NA gaiff ei wneud gan Osodwr Domestig cofrestredig sy’n aelod o Gynllun Person Cymwys (fesul annedd): £455.07

D.S. Bydd cost Rhan P yn berthnasol oni bai eich bod yn defnyddio Gosodwr Domestig cofrestredig, sy’n aelod o Gynllun Person Cymwys cymeradwy (Rhaid cyflwyno manylion cofrestru'r gosodwr neu bydd rhaid talu).
Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol uchod ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, am gymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis i gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.

Ar gyfer datblygiadau sy’n cynnwys o leiaf 15 annedd, cysylltwch â Rheoli Adeiladu dros e-bost i rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl i gael cost unigryw yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith.

Mae’r holl gostau, heblaw am y gost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol. Nid yw TAW’n daladwy ar geisiadau unioni.

Fflatiau/fflatiau deulawr hyd at 5 llawr yn y Bloc

Cost Cynllun: £519.75
Cost archwilio: £623.70
Cyfanswm: £1,143.45

Cost Rhybudd Adeiladu: £1,143.45
Cost Unioni: £1,524.60




Fflatiau/fflatiau deulawr hyd at 10 llawr yn y Bloc

Cost Cynllun: £779.63
Cost archwilio: £1,039.50
Cyfanswm: £1,819.13

Cost Rhybudd Adeiladu: £1,819.13
Cost Unioni: £2,425.50



Ar gyfer pob annedd ychwanegol o’r un ‘math/dyluniad’ dylid ychwanegu 0.15 o bris y cynllun a 0.25 o'r pris archwilio.

Cost Ychwanegol ar gyfer gwaith hysbysadwy Rhan P NA chaiff ei wneud gan Osodwr Domestig sy’n aelod o Gynllun Person Cymwys (fesul annedd): £455.07

D.S. Bydd costau Rhan P yn berthnasol oni bai eich bod yn defnyddio Gosodwr Domestig cofrestredig, sy’n aelod o Gynllun Person Cymwys cymeradwy (Rhaid cyflwyno manylion cofrestru'r gosodwr neu bydd rhaid talu).


Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis o gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.

Ar gyfer datblygiadau sy’n cynnwys o leiaf 15 annedd, cysylltwch â Rheoli Adeiladu dros e-bost gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl i gael cost unigryw yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith.

Mae’r holl gostau, heblaw am y gost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol. Nid yw TAW’n daladwy ar geisiadau unioni.



1) Codi neu estyniad i adeilad ar wahân neu adeilad cysylltiedig sy’n cynnwys modurdy un llawr neu fan storio car neu’r ddau, sydd â’r nod o‘u defnyddio gydag adeilad domestig sy’n bodoli, nad yw’n adeilad wedi ei eithrio.

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £187.11
Cyfanswm: £291.06

Cost Rhybudd Adeiladu: £291.06
Cost Unioni: £388.08


2) Unrhyw estyniad un llawr i eiddo sy'n llai na 25m2 o ran arwynebedd llawr, gan gynnwys dull mynediad ac unrhyw waith allanol ynghlwm wrth yr estyniad hwnnw.

Cost Cynllun: £155.93
Cost archwilio: £415.80
Cyfanswm: £571.73

Cost Rhybudd Adeiladu: £571.73
Cost Unioni: £762.30


3) Unrhyw estyniad un llawr i eiddo sy'n fwy na 25m2 o ran arwynebedd llawr, gan gynnwys dull mynediad ac unrhyw waith allanol ynghlwm wrth yr estyniad hwnnw.

Cost Cynllun: £207.90
Cost archwilio: £415.80
Cyfanswm: £623.70

Cost Rhybudd Adeiladu: £623.70
Cost Unioni: £831.60


4) Unrhyw estyniad deulawr i eiddo sy'n llai na 50m2 o ran arwynebedd llawr, gan gynnwys dull mynediad ac unrhyw waith allanol ynghlwm wrth yr estyniad hwnnw.

Cost Cynllun: £259.88
Cost archwilio: £415.80
Cyfanswm: £675.68

Cost Rhybudd Adeiladu: £675.68
Cost Unioni: £900.90


5) Unrhyw estyniad deulawr i eiddo sy'n fwy na 50m2 o ran arwynebedd llawr, gan gynnwys dull mynediad ac unrhyw waith allanol ynghlwm wrth yr estyniad hwnnw.

Cost Cynllun: £311.85
Cost archwilio: £467.78
Cyfanswm: £779.63

Cost Rhybudd Adeiladu: £779.63
Cost Unioni: £1,048.95


6) Addasiad atig (gan gynnwys ffenestri dormer cysylltiedig a/neu drosi to talcen slip yn dalcen tŷ).

Cost Cynllun: £207.90
Cost archwilio: £311.85
Cyfanswm: £519.75

Cost Rhybudd Adeiladu: £519.75
Cost Unioni: £693


7) Trosi modurdy cysylltiedig i fod yn ystafell y mae modd byw ynddi.

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £207.90
Cyfanswm: £311.85

Cost Rhybudd Adeiladu: £311.85
Cost Unioni: £415.80


8) Darparu, ymestyniad neu addasiad materol o wasanaeth neu ffitiad rheoledig mewn, neu mewn perthynas ag annedd sy’n bodoli eisoes (heblaw am waith trydanol). *

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £103.95
Cyfanswm: £207.90

Cost Rhybudd Adeiladu: £207.90
Cost Unioni: £277.20


9) Gwaith ynghlwm wrth ategu seiliau annedd sengl.

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £207.90
Cyfanswm: £311.85

Cost Rhybudd Adeiladu: £311.85
Cost Unioni: £415.80


10) Adnewyddu elfen(nau) thermol ar annedd sengl.

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £207.90
Cyfanswm: £311.85

Cost Rhybudd Adeiladu: £311.85
Cost Unioni: £415.80


11) Unrhyw addasiad materol i annedd sengl.

Cost Cynllun: £103.95
Cost archwilio: £207.90
Cyfanswm: £311.85

Cost Rhybudd Adeiladu: £311.85
Cost Unioni: £415.80


12) Gwaith trydanol i annedd sy’n bodoli eisoes NAD yw'n cael ei gyflawni gan osodwr domestig cofrestredig sy'n gymwys i gyflawni a darparu gosodiadau BS 7671, tystysgrifau comisiynu a phrofi. *

Cost Cynllun: £155.93
Cost archwilio: £207.90
Cyfanswm: £363.83

Cost Rhybudd Adeiladu: £363.83
Cost Unioni: £485.10



Os ystyrir ei bod hi’n angenrheidiol i Archwiliwr Rheoli Adeiladu gysylltu ag ymgynghorydd i gynorthwyo â'r gwaith o wirio/dehongli cyfrifiadau cymhleth a/neu adroddiadau arbenigol, bydd pris cysylltu ag unrhyw ymgynghorydd yn cael ei godi ar ben y costau terfynol.

Bydd unrhyw gostau sydd heb eu nodi yn y tablau uchod yn destun penderfyniad unigol gan yr Archwiliwr Rheoli Adeiladu ar ôl derbyn y manylion perthnasol yn ymwneud â'r cynnig. Dylech roi’r wybodaeth hon i Rheoli Adeiladu dros e-bost i rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl i gael cost unigryw yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith.

Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis o gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y  bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.

Os ydych yn mynd i’r afael â sawl estyniad a/neu addasiad materol ar yr un pryd, gallech fod yn gymwys i gael penderfyniad unigol ar y pris, fel y’i nodir uchod.

Diffinnir addasiad materol yn Rheoliad 3(2) y prif reoliadau, h.y. Rheoliadau Adeiladau 2010 (fel y'i diwygiwyd).

Mae’r holl gostau, heblaw am y gost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol bresennol. Nid yw TAW’n daladwy ar geisiadau unioni.

*O.N. ar gyfer eitemau 8 a 12 uchod, bydd angen i’r cais fod â chefnogaeth tystysgrifau profi a chomisiynu trydydd parti, wedi’u trefnu, eu comisiynu a’u cyflenwi gan yr ymgeisydd, ar gyfer yr holl waith trydanol ac unrhyw ddarpariaeth ar offer cynhyrchu gwres solet/tanwydd deuol.

​ 

At ddibenion y costau hyn, mae newid ar ddefnydd materol pan fydd newid yn y dibenion, neu yn amgylchiadau defnyddio’r adeilad, felly ar ôl y newid hwnnw.

Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel annedd, pan nad oedd cynt.

Cost Cynllun: £343.04
Cost archwilio: £415.80
Cyfanswm: £758.84

Cost Rhybudd Adeiladu: £758.84
Cost Unioni: £1,011.78


Mae’r adeilad yn cynnwys fflat, pan nad oedd cynt (hyd at greu uchafswm o 4 fflat).

Cost Cynllun: £363.83
Cost archwilio: £519.75
Cyfanswm: £883.58

Cost Rhybudd Adeiladu: £883.58
Cost Unioni: £1,178.10


Caiff yr adeilad ei ddefnyddio fel gwesty neu dŷ llety, pan nad oedd cynt (hyd at greu uchafswm o 10 ystafell).

Cost Cynllun: £363.83
Cost archwilio: £831.60
Cyfanswm: £1,195.43

Cost Unioni: £1,593.90


Caiff yr adeilad ei ddefnyddio fel sefydliad pan nad oedd cynt.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk


Caiff yr adeilad ei ddefnyddio fel adeilad cyhoeddus pan nad oedd cynt.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk


Nid yw’r adeilad yn adeilad a ddisgrifir yn Nosbarthiadau I i VI yn Atodlen 2 y Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y’i diwygiwyd), ond lle roedd cynt.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk


Mae’r adeilad, sy’n cynnwys o leiaf un annedd, yn cynnwys mwy neu lai o anheddau nac o’r blaen.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk


Mae’r adeilad yn cynnwys ystafell at ddibenion preswyl, pan nad oedd cynt (hyd at greu uchafswm o 4 ystafell).

Cost Cynllun: £363.83
Cost archwilio: £831.60
Cyfanswm: £1,195.43

Cost Unioni: £1,593.90


Mae’r adeilad, sy’n cynnwys o leiaf un ystafell at ddibenion preswyl, yn cynnwys nifer mwy neu lai o ystafelloedd cyffelyb nag ydoedd cynt.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk


Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel siop, lle nad oedd cynt.

Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar rheoliadeiladu@cardifflabc.co.uk



Os ystyrir ei bod hi’n angenrheidiol i Archwiliwr Rheoli Adeiladu gysylltu ag ymgynghorydd i gynorthwyo â'r gwaith o wirio/dehongli cyfrifiadau cymhleth a/neu adroddiadau arbenigol, bydd pris cysylltu ag unrhyw ymgynghorydd yn cael ei godi ar ben y costau terfynol.


Mae unrhyw waith nad yw wedi’i ddisgrifio’n uniongyrchol yn y tablau uchod yn destun pris unigol fydd yn cael ei gyfrifo gan yr Archwiliwr Rheoli Adeiladu ar ôl derbyn yr holl fanylion perthnasol sy’n ymwneud â’r cynnig. Dylech roi’r wybodaeth hon i Rheoli Adeiladu dros e-bost i rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl i gael cost unigryw yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith.


Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis o gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.


Nid yw’r costau safonol uchod ar gyfer newid defnydd adeilad yn cynnwys unrhyw waith arall a ddisgrifir yn Nhablau B, D ac E a wneir ar y cyd â’r gwaith i newid defnydd yr adeilad hwnnw e.e. bydd unrhyw estyniadau, addasiadau atig ac ati yn achosi pris ychwanegol fel yr amlinellir yn y tablau perthnasol.

Mae’r holl gostau, heblaw am y gost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol. Nid yw’r costau Unioni’n destun TAW.



Arwynebedd llawr heb fod dros 250m2. Heb fod yn fwy na 2 lawr.

Cost Cynllun: £1,039.50
Cost archwilio: £1,559.25
Cyfanswm: £2,598.75

Cost Unioni: £3,465


Arwynebedd llawr dros 250m2 ond yn llai na 1,000m2. Heb fod yn fwy na 2 lawr.

Cost Cynllun: £1,455.30
Cost archwilio: £2,182.95
Cyfanswm: £3,638.25

Cost Unioni: £4,851



 

Os ystyrir ei bod hi’n angenrheidiol i Archwiliwr Rheoli Adeiladu gysylltu ag ymgynghorydd i gynorthwyo â'r gwaith o wirio/dehongli cyfrifiadau cymhleth a/neu adroddiadau arbenigol, bydd pris cysylltu ag unrhyw ymgynghorydd yn cael ei godi’n ychwanegol.

Bydd unrhyw gostau sydd heb eu nodi yn y tablau uchod yn destun penderfyniad unigol gan yr Archwiliwr Rheoli Adeiladu ar ôl derbyn y manylion perthnasol yn ymwneud â'r cynnig. Dylech ddarparu’r wybodaeth hon i Rheoli Adeiladu dros e-bost i rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl i gael cost unigryw yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith.

Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis o gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.

Mae’r holl gostau, heblaw am y gost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol bresennol. Nid yw’r costau unioni’n destun TAW.


Disodli ffenestri heb gontractio aelod o gynllun hunan- ardystio cofrestredig. Uchafswm o 20 uned

Cost Cynllun: £129.94
Cost archwilio: £233.89
Cyfanswm: £363.83

Cost Unioni: £485.10


Adnewyddu elfen(nau) thermol ar un adeilad. Adeilad sydd heb fod dros 4 llawr.

Cost Cynllun: £233.89
Cost archwilio: £233.89
Cyfanswm: £467.78

Cost Unioni: £623.70


Darparu, estyn neu addasu gwasanaeth rheoledig mewn, neu mewn perthynas ag adeilad annomestig sy’n bodoli eisoes.

Cost Cynllun: £182.18
Cost archwilio: £233.89
Cyfanswm: £415.80

Cost Unioni: £554.40

Eiddo, neu uned cragen a chraidd, gwaith dodrefnu ac ati pan nad yw’r adeilad yn fwy na 1,000m2.

Cost Cynllun: £311.85
Cost archwilio: £623.70
Cyfanswm: £935.55

Cost Unioni: £1,247.40


Gosod llawr mesanîn mewn unrhyw adeilad annomestig hyd at uchafswm arwynebedd mesanîn o 450m2.

Cost Cynllun: £207.90
Cost archwilio: £311.85
Cyfanswm: £519.75

Cost Unioni: £831.60


Gosod llawr mesanîn mewn unrhyw adeilad annomestig hyd at uchafswm arwynebedd mesanîn o 750m2.

Cost Cynllun: £363.83
Cost archwilio: £519.75
Cyfanswm: £883.58

Cost Unioni: £1,413.72


Gosod llawr mesanîn mewn unrhyw adeilad annomestig hyd at uchafswm arwynebedd mesanîn o 1050m2.

Cost Cynllun: £415.80
Cost archwilio: £800.42
Cyfanswm: £1,216.22

Cost Unioni: £1,945.02


Unrhyw addasiad materol sydd heb ei drafod uchod gan gynnwys unrhyw addasiadau strwythurol ac ati mewn adeilad sydd heb fod dros 1,000m2 neu 3 llawr mewn uchder.

Cost Cynllun: £207.90
Cost archwilio: £519.75
Cyfanswm: £727.65

Cost Unioni: £1,164.24


Os ystyrir ei bod hi’n angenrheidiol i Archwiliwr Rheoli Adeiladu gysylltu ag ymgynghorydd i gynorthwyo â'r gwaith o wirio/dehongli cyfrifiadau cymhleth a/neu adroddiadau arbenigol, bydd pris cysylltu ag unrhyw ymgynghorydd yn cael ei godi’n ychwanegol.


Bydd unrhyw gostau sydd heb eu nodi yn y tablau uchod yn destun penderfyniad unigol gan yr Archwiliwr Rheoli Adeiladu ar ôl derbyn y manylion perthnasol yn ymwneud â'r cynnig. Cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar gyfer pris a bennir yn unigol, a fydd yn seiliedig ar ofynion penodol y gwaith. Os oes arnoch angen pris a bennir yn unigol, anfonwch gais dros e-bost i rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk gan gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl.

Mae’r Awdurdod hwn wedi pennu’r costau safonol ar y sail nad yw’r gwaith adeiladu’n cynnwys technegau adeiladu risg uchel neu arloesol a/neu nad yw’r gwaith adeiladu, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd mwy na 12 mis a bod y gwaith yn cael ei ddechrau o fewn 6 mis o gyflwyno’r cais/rhybudd. Tybir hefyd y bydd y dyluniad a’r gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni gan berson neu gwmni sy'n gymwys i wneud y dyluniad a'r gwaith adeiladu perthnasol sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Os nad yw hyn yn berthnasol, efallai bydd cost ychwanegol am y gwaith.

Mae’r holl gostau, heblaw am y Cost Unioni, yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol bresennol. Nid yw’r costau unioni’n destun ​TAW.

Cysylltu â ni​​






Gellir cysylltu â ni ar unrhyw  un o'r rhifau canlynol:

029 2233 0383
029 2233 0382
029 2233 0381 ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​


© 2022 Cyngor Caerdydd