Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut mae gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu?


Cyflwyno cais i Rheoli Adeiladu

Nid yw’r cyfleuster Rheoli Adeiladau Ar-lein ar gael bellach.

A wnewch chi e-bostio Tîm Gweinyddol Rheoli Adeiladu rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk ​neu ffonio ni ar 
029 2233 0382 / 0383 / 0381 fel y gallwn eich helpu i gyflwyno eich cais.

Unwaith yr ydych wedi cael gwybod a oes angen cymeradwyaeth arnoch, mae dwy ffordd o wneud cais.

Gweithdrefn Cynlluniau Llawn 


Fel rhan o’r dull hwn bydd angen cyflwyno cynlluniau a manylebau cwbl fanwl sy’n dangos y bydd y gwaith arfaethedig yn bodloni’r holl ofynion perthnasol yn atodlen 1, y manylir arnynt yn y rheoliadau adeiladu. 

 

Ar ôl i ni gadarnhau bod y cynlluniau a’r manylebau hyn yn cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau adeiladu, byddwn yn rhoi hysbysiad o gymeradwyaeth i chi y gallwch ei ddefnyddio i brofi bod eich cynlluniau wedi’u cymeradwyo.


Dyma manteision y weithdrefn hon:


  • Byddwch yn derbyn penderfyniad ffurfiol ar ôl i ni gadarnhau – fel arfer ymhen 3 wythnos.
  • Byddwch yn derbyn cyngor cydymffurfio yng ngham dylunio eich project.
  • Byddwch yn derbyn hysbysiad o benderfyniad i’w ddangos i sefydliadau ariannol, cyfreithwyr, syrfewyr ac ati wrth geisio benthyciadau neu symud tŷ. 
  • Cewch fod yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw waith a gwblheir yn unol â’r cynlluniau hyn yn bodloni gofynion y rheoliadau. 


Sut i gyflwyno cais cynlluniau llawn

 

Rhaid i’ch cais gynnwys y canlynol:


  • Yr holl gynlluniau, adrannau a drychiadau, gan gynnwys yr holl nodiadau technegol angenrheidiol, y cyfrifiadau sydd y tu cefn iddynt a manylebau, 
  • Cynllun wrth raddfa 1:1250 yn dangos maint a lleoliad yr adeilad, neu’r adeilad ar ôl iddo gael ei ymestyn, a’i berthynas â therfynau cyfagos (h.y. cynlluniau bloc), a


Chyflwyno eich cynlluniau ynghyd â’ch ffurflen gais cynlluniau llawn (781kb PDF)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd wedi’i chwblhau.  



Gweithdrefn rhybudd adeiladu 

 

Mae’r weithdrefn hon yn ddefnyddiol wrth wneud gwaith ar brojectau domestig llai a phan fo’r person sy’n gwneud y gwaith yn gyfarwydd â gofynion y rheoliadau e.e. pan fo adeiladwr yn arbenigo mewn e.e. gwaith ymestyn, addasu neu newid (llofft) sy’n ailadroddus ac sydd â gofynion tebyg i’r rheoliadau adeiladu. 


Mae’r weithdrefn hon yn arbed amser a chost gan nad yw’n cynnwys paratoi a chyflwyno cynlluniau a manylebau cwbl fanwl. 


Gyda’r weithdrefn rhybudd adeiladu, caiff y gwaith ei archwilio o hyd ar gamau amrywiol wrth iddynt fynd yn eu blaenau i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Gan ddibynnu ar natur a chymhlethdod y gwaith sy’n cael ei wneud gallai fod gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth bellach i egluro addasrwydd y gwaith. 


Ni ellir defnyddio rhybudd adeiladu pan fo angen ymgynghori â’r Gwasanaeth Tân i wneud y gwaith arfaethedig h.y. pan fo’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) yn berthnasol.  


Sut i gyflwyno Rhybudd Adeiladu

 

Rhaid i’ch cais gynnwys y canlynol:


  • Cynllun wrth raddfa 1:1250 yn dangos maint a lleoliad yr adeilad, neu’r adeilad ar ôl iddo gael ei ymestyn, a’i berthynas â therfynau cyfagos (a elwir yn gynlluniau bloc fel arfer)
  • Disgrifiad/manylion o’r gwaith arfaethedig

 

Chyflwyno eich cynlluniau ynghyd â’ch ffurflen gais cynlluniau llawn (781kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​​​ wedi’i chwblhau. 


Ni ystyrir bod cais cynlluniau llawn neu rybudd adeiladu wedi’u cyflwyno na’u prosesu tan fod y ffi berthnasol wedi’i thalu. Gellir talu dros y ffôn.


Yr union un ffi sy’n daladwy ar gyfer y weithdrefn cynlluniau llawn neu rybudd adeiladu. Fodd bynnag, o ran y weithdrefn cynlluniau llawn, rhaid talu’r ffi mewn dau randaliad, ffi gyflwyno sy’n daladwy wrth wneud eich cais a ffi archwilio sy’n daladwy pan fyddwch yn dechrau gwaith ar y safle. Wrth ddefnyddio’r weithdrefn rhybudd adeiladu rhaid talu’r ffi gyflwyno a’r ffi archwilio wrth i chi wneud eich cais.

 

Beth nesaf?


Gyda’r weithdrefn cynlluniau llawn, dylech ddisgwyl nes y byddwn wedi gwirio a chymeradwyo eich cynlluniau a manylebau manwl cyn dechrau’r gwaith.


Fodd bynnag, gall gwaith ar y safle ddechrau dau ddiwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich cais  (Cynlluniau Llawn neu Rybudd Adeiladu) ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich bwriad ddau ddiwrnod cyn dechrau. 


Caiff archwiliad pellach ei drefnu a’i gynnal i alluogi cydymffurfio â gofynion perthnasol y rheoliadau adeiladu. Fodd bynnag, chi sy’n gyfrifol am roi hysbysiadau ‘statudol’ o unrhyw rai o’r naw cam o waith a restrir sy’n berthnasol i’r gwaith adeiladu rydych yn ei wneud. Er enghraifft;

 

  • Dechrau
  • Cloddio ar gyfer sylfeini
  • Gosod sylfaen concrid 
  • Gosod croen atal lleithder 
  • Safle yn barod i gael ei goncritio (gan gynnwys croen atal lleithder ac inswleiddio)
  • Gosod draeniau 
  • Gorchuddio ac ail-lenwi draeniau yn barod ar gyfer profion
  • Meddiannaeth 
  • Cwblhau’r gwaith neu feddiannu’r adeilad neu’r ardal sy’n cael eu heffeithio gan y gwaith, p’un bynnag sy’n dod gyntaf.

 

Pan fo archwiliad boddhaol wedi’i gynnal, byddwn yn rhoi tystysgrif cwblhau i chi. Mae hyn yn ddogfen bwysig iawn a bydd ei hangen arnoch os byddwch erioed yn penderfynu gwerthu eich eiddo neu ennill cyfalaf yn ei erbyn. 


Cysylltu â ni

rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk

Gellir cysylltu â ni ar unrhyw un o'r rhifau canlynol:

029 2233 0383​
029 2233 0382​​​029 2233 0381
 
​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd