Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymuno â llyfrgell

Ymunwch â'ch llyfrgell leol am ddim a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.

Gallwch wneud hyn ar-lein neu yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.

Gallwch fenthyg llyfrau ac eLyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim, ond rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs.

Ymuno â'r llyfrgell ar-lein

Pan fyddwch yn ymuno ar-lein, byddwch yn cael ID defnyddiwr i fewngofnodi. Ni fydd angen cerdyn llyfrgell arnoch, ond gallwch gael un yn eich Hyb neu lyfrgell leol o hyd.

Ymuno â'r llyfrgell ar-lein.

Ymuno â'r llyfrgell wyneb yn wyneb

Gallwch ymuno â llyfrgell yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.

Gweld ein rhestr lawn o leoliadau ac amseroedd agor.

Pan fyddwch yn ymuno wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos prawf adnabod. Er enghraifft:

  • trwydded yrru,
  • cerdyn debyd neu gredyd,
  • bil trydan, nwy, neu dŵr,
  • cyfriflen banc neu gerdyn credyd,
  • pasbort, neu
  • ID myfyriwr neu gerdyn NUS, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC) a Cherdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC).

Os ydych o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell presennol i ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd os ydych yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng:

  • Nghymru,
  • Lloegr, neu
  • Ogledd Iwerddon.

Adnewyddu ac eitemau hwyr

Os nad ydych wedi gorffen gyda'r llyfr neu adnodd ffisegol arall rydych wedi'i fenthyg gennym ni, bydd yn parhau i adnewyddu'n awtomatig.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd rhywun arall yn cadw eitem rydych wedi'i menthyg. Bydd hyn fel arfer yn digwydd drwy e-bost. Yna bydd angen i chi ddychwelyd yr eitem. Gwnewch yn siŵr bod gennych gyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru gyda ni.

Codir dirwyon am eitemau hwyr. Gweld y rhestr lawn o ffioedd a thaliadau llyfrgell.

Gallwch dalu dirwy yn bersonol yn ein Hybiau a'n llyfrgelloedd. Rydym yn derbyn arian parod yn unig ar gyfer taliadau dirwy.

Gallwch hefyd adnewyddu eitem neu reoli eich cyfrif llyfrgell ar-lein. Os oes angen help arnoch i wneud hyn, ffoniwch neu ewch i'ch Hyb neu lyfrgell leol.

Bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych yn adnewyddu ar-lein.

Os nad ydych wedi gorffen gyda'r eitem rydych wedi'i benthyg, mae'n bosibl y gallwch ei hadnewyddu, ar yr amod nad yw wedi'i chadw gan rywun arall. Gallwch:

  • adnewyddu ar-lein,
  • ffonio eich llyfrgell leol i adnewyddu dros y ffôn, neu
  • fynd â'r eitem yn ôl i lyfrgell a'i hadnewyddu wyneb yn wyneb.

Bydd angen eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych yn adnewyddu ar-lein.

Nid oes dirwyon ar gyfer llyfrau plant, ond dewch â nhw'n ôl atom mor agos i'r dyddiad dychwelyd â phosibl os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymuno â llyfrgell, llenwch ein ffurflen.

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ein ffurflen os ydych wedi anghofio'ch PIN. Nodwch rif eich cerdyn llyfrgell os ydych yn ei wybod.

Cysylltu â ni