Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Strategaeth hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd

Mae'r strategaeth yn amlinellu ein hamcanion sydd â'r nod o:

  • annog ymgysylltu â'r gymuned,
  • hyrwyddo llythrennedd, a
  • darparu gwasanaethau hanfodol ledled Caerdydd.

Ein gweledigaeth: 'Darparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion penodol pob cymuned'.

Mae ein gweledigaeth yn cael ei chyflawni trwy 10 nod allweddol:

  1. Ysbrydoli Darllen a Diwylliant
    Ein nod yw meithrin cariad at ddarllen a dysgu trwy ddarparu casgliadau llyfrau amrywiol sy'n adlewyrchu dewisiadau ein cymunedau, gan gynnwys unigolion niwrowahanol.
     
  2. Darparu Gwybodaeth a Chyngor Dibynadwy
    Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at gyngor a gwybodaeth a chynnal safonau uchel drwy Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru.
     
  3. Darparu Cymorth Costau Byw
    Bydd ein pwyslais ar ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y costau byw cynyddol.
     
  4. Gwella Cynhwysiant Digidol
    Byddwn yn esblygu ein gwasanaethau digidol, gan ymgorffori technolegau newydd i helpu i wrthsefyll tlodi digidol ac arfogi pobl â sgiliau digidol hanfodol.
     
  5. Cefnogi Cyflogaeth ac Uwchsgilio
    Byddwn yn darparu ystod o gymorth cyflogadwyedd gan gynnwys cymorth anffurfiol, mentora un i un a rhaglenni hyfforddi.
     
  6. Grymuso Plant a Phobl Ifanc
    Mae ein hymrwymiad yn cynnwys ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd i lunio ein casgliadau a chynnig gweithgareddau a digwyddiadau o safon iddynt.
     
  7. Hyrwyddo Iechyd a Lles
    Byddwn yn cefnogi mentrau iechyd, gan gynnwys cynlluniau fel Daioni Darllen a phrofion iechyd cymunedol, wrth gydweithio â phartneriaid iechyd i wella ymwybyddiaeth iechyd y cyhoedd.
     
  8. Cynnig Cyfleoedd Gwirfoddoli
    Bydd ein rhaglenni gwirfoddoli amrywiol yn gwella sgiliau ac yn cysylltu pobl â'u cymuned.
     
  9. Darparu Mannau Cynhwysol
    Bydd ein Hybiau a'n Llyfrgelloedd wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion cymunedau Caerdydd.
     
  10. Ceisio Allgymorth ac Ymestyn Cyfleoedd Darpariaeth
    Sicrhau bod cymunedau sydd eu hangen yn elwa ar wasanaethau'r Hyb a chwilio am gyfleoedd i ehangu'r ddarpariaeth.

Darllenwch Strategaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd 2024 i 2029 (PDF, 16 MB)