Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaeth cynghori

Gallwch gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cynghori o Hybiau Caerdydd.

Dewch o hyd i'ch Hyb neu Lyfrgell leol.

Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith

Mae'r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth digidol i unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwchsgilio.

Gall y gwasanaeth gynnig cymorth a chyngor ar:

  • Ysgrifennu CV
  • Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol
  • Chwilio am Swydd
  • Cymorth cyflogaeth
  • Technegau cyfweld
  • Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol
  • Hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim
  • Cyllid gofal plant, teithio a threuliau eraill (yn dibynnu ar gymhwysedd)
  • Dechrau eich busnes eich hun
  • Cyfleoedd gwirfoddoli
  • Cyfleoedd lleoliadau gwaith

Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol

Os ydych chi'n cael trafferth rheoli eich arian, gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol Caerdydd gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, gwneud y gorau o incwm a rheoli dyledion.

Gwasanaeth Cynghori Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cynghori Caerdydd (GCC) yn cynnwys y Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd, annibynnol, cyfrinachol am ddim i bawb ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Gall y gwasanaeth roi cymorth ar:

  • Fudd-daliadau Lles
  • Dyled
  • Tai
  • Teulu a pherthnasoedd
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Mewnfudo
  • Gwahaniaethu a
  • Materion Defnyddwyr

Cymerwch olwg ar restr o leoliadau ac oriau agor Gwasanaeth Cynghori Caerdydd.