Fel yr Awdurdod Trwyddedu i Gaerdydd, rydym yn awdurdodi cyflenwad alcohol, adloniant neu gyflenwi bwyd poeth gyda'r nos o safleoedd unigol.
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais, dylech ddarllen ein canllawiau gwneud cais am drwydded safle clwb (PDF, 233 KB).
Gwneud Cais Ar-lein:
- Datganiad ar gyfer tystysgrif adeilad clwb
- Cais am dystysgrif adeilad clwb newydd
- Cais am amrywiad ar dystysgrif adeilad clwb
- Cais am wneud mân amrywiad i drwydded adeilad neu glwb
- Hysbysiad o newid manylion neu reolau clwb
- Gwneud taliad blynyddol am drwydded clwb
Gwneud cais drwy'r post:
- Ffurflen gais am dystysgrif safle clwb (PDF, 2 MB)
- Datganiad tystysgrif safle clwb (PDF, 163 KB)
- Ffurflen gais mân amrywiadau (60kb PDF)
- Ffurflen gais amrywio tystysgrif safle clwb (PDF, 134 KB)
Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:
Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW
Ynghyd â'r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:
- cynllun o'r eiddo
- atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â'r pedwar nod trwyddedu)
- y ffi gywir
- Copi o lyfr rheolau'r clwb
Rhaid i'r ceisydd hefyd gyflwyno copi o'r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i'r awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu'r cyngor.
Faint fydd cost trwydded?
Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae'r ffioedd yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig (NDRVy safle. Gallwch weld pob ffi yn ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (PDF, 268 KB).
Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand A at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.
Gallwch dalu fel a ganlyn: Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696) Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd') Gallwch hefyd dalu drwy BACS:Cod didoli: 52-21-06Rhif cyfrif: 20408838 Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GRRhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i'r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno'r drwydded.
Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, sef:
- atal trosedd ac anrhefn
- atal niwsans cyhoeddus
- diogelwch y cyhoedd
- amddiffyn plant rhag niwed
Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu'r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â'r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.
Os cynhelir gwrandawiad, gall y Dystysgrif gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.
Datganiad o Bolisi Deddf Trwyddedu (457kb PDF) - 401 error
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni
Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir
Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.
Trwyddedu Cyngor Caerdydd
Ffôn: 029 2087 1651
Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.
