Mae angen i weithredwyr pontydd pwyso feddu ar dystysgrif cymhwyso gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau. Mae hyn yn sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd gymwys ac onest. Ni all neb weithredu offer pwyso cyhoeddus heb dystysgrif.
Gallwch gael tystysgrif ar ôl cwblhau prawf sylfaenol. Caiff profion eu cynnal dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.
Sut i wneud cais
I drefnu prawf, cwblhewch y ffurflen gais Gweithredwr Pont Bwyso Cyhoeddus (Word doc, 8 MB) a'i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:
Safonau masnachCyngor CaerdyddNeuadd y SirCaerdyddCF10 4UW
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Iau: 8.30am - 5pm
Dydd Gwener: 8.30am - 4pm
Faint mae'n ei gostio?
Ar hyn o bryd, mae'r ffi i gael tystysgrif yn dibynnu ar y cais, yn ôl argymhelliad Cydlynwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS)
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cael y ffurflen gais, bydd swyddog o Safonau Masnach Caerdydd yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad i'r prawf.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni
029 2087 3059
